Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan fawr o ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu teuluoedd a mynd i'r afael â thlodi plant yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl.
Meddai Huw Lewis:
"Rydyn ni'n gwybod nad yw teuluoedd union yr un fath â’i gilydd, ac nad oes ganddyn nhw'r un anghenion. Drwy gyfrwng ein rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, rydyn ni’n darparu cymorth cydgysylltiedig gwell i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, sy’n diwallu eu hanghenion unigol.
"Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddais i mai Wrecsam a Rhondda Cynon Taf fyddai ein hardaloedd arloesi cyntaf. Erbyn hyn, maen nhw'n datblygu arfer da yn eu hardaloedd lleol ac yn meddwl am ffyrdd o helpu teuluoedd i ddatrys ystod o broblemau y gallen nhw fod yn eu hwynebu.
"Dw i wrthi'n ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru i ofyn iddyn nhw anfon datganiad o ddiddordeb aton ni os ydyn nhw am fod yn un o'n hardaloedd arloesi nesaf. Mae canllawiau wedi'u hanfon at yr awdurdodau lleol yn amlinellu'r hyn y mae disgwyl i'r ardaloedd arloesi ei wneud, a bydda i'n cyhoeddi'r ardaloedd llwyddiannus ym mis Mawrth.
"Yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad, rydyn ni wedi dangos ein hymrwymiad diamod i ddiogelu plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed drwy gynyddu'r arian ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf. Cyfnod anodd yw hwn, ond byddwn ni'n parhau i roi plant ar ben uchaf ein blaenoriaethau ac rydyn ni'n galw ar bawb arall i wneud yr un peth."











