Mae’r Datganiad Polisi yn nodi blaenoriaethau ac amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwella gofal plant ledled Cymru.
Meddai Huw Lewis:
“Mae gan Lywodraeth y Cynulliad ymrwymiad hirdymor i wella gofal plant yng Nghymru ac mae’r Datganiad Polisi Gofal Plant sy’n cael ei lansio heddiw yn gam ymlaen at wireddu’r ymrwymiad hwnnw. Mae’r Datganiad yn nodi tair prif flaenoriaeth strategol – sef ansawdd da, hygyrchedd a phrisiau sydd o fewn cyrraedd pawb. Trwy gadw at y blaenoriaethau hyn, byddwn ni’n gallu datblygu dull integredig o ddarparu gofal plant sy’n bodloni anghenion plant ac yn cefnogi eu rhieni, gan ddod â manteision i bawb.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cael swydd, yn enwedig swydd lawn amser, yn helpu i amddiffyn pobl rhag tlodi. Mae gofal plant yn hanfodol i rieni allu fanteisio ar gyfleoedd gwaith.
“Mae ansawdd y ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru hefyd yn bwysig o ran mynd i’r afael â thlodi plant. Trwy wella eu cyfleoedd gwaith yn y dyfodol a lleihau tlodi yn y tymor hir, mae gofal plant yn chwarae rhan hollbwysig yn ein hymdrechion i wella lles plant a chael gwared ag anghydraddoldebau mewn iechyd a chyraeddiadau addysgol.
"Mae gofal plant yn fwy na dim ond rhywle i fynd tra bydd rhieni yn gweithio. Mae’n gyfle i wella bywydau plant, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel. Dyna pam bod darparu gofal plant o ansawdd uchel sydd ar gael i bawb am bris rhesymol yn flaenoriaeth yn ein Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru.
“Mae’r gweithlu hefyd yn allweddol i ddarparu gofal plant o ansawdd. Rydyn ni am annog mwy o bobl i ymuno â’r sector ac i ennill cymwysterau a fydd yn arwain at gael swyddi ynddo. Rydyn ni hefyd am gynnig cyfleoedd rheolaidd i barhau i ddatblygu’n broffesiynol trwy wella sgiliau a dysgu sgiliau newydd.
“Mae’n hanfodol codi proffil y sector gofal plant a chodi statws y proffesiwn.
“Mae llawer o heriau yn ein hwynebu. Ni fu erioed yn bwysicach sicrhau bod ein plant yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau ac nad ydyn nhw dan anfantais oherwydd tlodi.
“Rhaid cofio mai’r plentyn sy’n dod gyntaf mewn gofal plant, a rhaid parhau â’n hymdrechion i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael dechrau teg mewn bywyd.”











