Ar ôl cyhoeddi enwau’r ddwy ardal gyntaf fis Gorffennaf diwethaf, gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau i fod yn ardaloedd arloesi cam 2.
Y tri chonsortiwm a ddewiswyd yw:
- Caerdydd a Chasnewydd;
- Consortiwm y De-orllewin – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro;
- Consortiwm y Gogledd-orllewin - Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy.
Nod sefydlu ardaloedd arloesi yw arwain y gwaith o wella dulliau darparu gwasanaethau i deuluoedd ledled Cymru, yn enwedig teuluoedd sy’n byw mewn tlodi, a hynny yn unol â Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i weithredu’n gyflym i ddod o hyd i’r dulliau gorau o weithio a sicrhau bod y dulliau hynny ar waith ledled Cymru.
Meddai Huw Lewis:
“Yn ein Strategaeth Tlodi Plant, a lansiwyd y mis diwethaf, disgrifiais ein bwriad i greu ardaloedd arloesi Teuluoedd yn Gyntaf ledled Cymru o fis Ebrill 2012. Y cyhoeddiad heddiw yw’r cam nesaf o ran sicrhau bod hynny’n digwydd.
“Rydyn ni’n awyddus i greu dulliau newydd ac arloesol o weithio gyda theuluoedd er mwyn mynd i’r afael â problemau yn eu crynswth trwy ddefnyddio system integredig i sicrhau canlyniadau. Nid yw’n bosibl pennu un ffordd ar gyfer datrys pob problem – ni fyddai’n gweithio nac yn gosteffeithiol.
“Daeth cynigion o safon dda i law sy’n dangos bod awdurdodau lleol yn dod i ddeall posibiliadau menter Teuluoedd yn Gyntaf yn well.
“Mae’n glir bod awydd i wella ein dulliau o ddarparu gwasanaethau i deuluoedd, a hynny er mwyn y teuluoedd eu hunain. Byddwn ni’n gweithio’n agos â’r holl awdurdodau lleol wrth i’r amser i roi Teuluoedd yn Gyntaf ar waith yn 2012 nesáu.
“Roedd y tri chonsortiwm a ddewiswyd i gyd yn dangos syniadau cryf o ran gweithio ar y cyd i gefnogi teuluoedd. Dw i’n credu y bydd teuluoedd yn yr ardaloedd hynny yn elwa o gael gwasanaethau mwy cydlynol.”











