Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi enwau tair ardal arloesi newydd Teuluoedd yn Gyntaf

Heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, enwau tair ardal arloesi newydd Teuluoedd yn Gyntaf.
Dydd Llun 28 Mawrth 2011

Ar ôl cyhoeddi enwau’r ddwy ardal gyntaf fis Gorffennaf diwethaf, gwahoddwyd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau i fod yn ardaloedd arloesi cam 2.  

Y tri chonsortiwm a ddewiswyd yw:

  • Caerdydd a Chasnewydd;
  • Consortiwm y De-orllewin – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro;
  • Consortiwm y Gogledd-orllewin - Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy.

Nod sefydlu ardaloedd arloesi yw arwain y gwaith o wella dulliau darparu gwasanaethau i deuluoedd ledled Cymru, yn enwedig teuluoedd sy’n byw mewn tlodi, a hynny yn unol â Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn awyddus i weithredu’n gyflym i ddod o hyd i’r dulliau gorau o weithio a sicrhau bod y dulliau hynny ar waith ledled Cymru.

Meddai Huw Lewis:

“Yn ein Strategaeth Tlodi Plant, a lansiwyd y mis diwethaf, disgrifiais ein bwriad i greu ardaloedd arloesi Teuluoedd yn Gyntaf ledled Cymru o fis Ebrill 2012. Y cyhoeddiad heddiw yw’r cam nesaf o ran sicrhau bod hynny’n digwydd.

“Rydyn ni’n awyddus i greu dulliau newydd ac arloesol o weithio gyda theuluoedd er mwyn mynd i’r afael â problemau yn eu crynswth trwy ddefnyddio system integredig i sicrhau canlyniadau. Nid yw’n bosibl pennu un ffordd ar gyfer datrys pob problem – ni fyddai’n gweithio nac yn gosteffeithiol.

“Daeth cynigion o safon dda i law sy’n dangos bod awdurdodau lleol yn dod i ddeall posibiliadau menter Teuluoedd yn Gyntaf yn well.  

“Mae’n glir bod awydd i wella ein dulliau o ddarparu gwasanaethau i deuluoedd, a hynny er mwyn y teuluoedd eu hunain. Byddwn ni’n gweithio’n agos â’r holl awdurdodau lleol wrth i’r amser i roi Teuluoedd yn Gyntaf ar waith yn 2012 nesáu.  

“Roedd y tri chonsortiwm a ddewiswyd i gyd yn dangos syniadau cryf o ran gweithio ar y cyd i gefnogi teuluoedd. Dw i’n credu y bydd teuluoedd yn yr ardaloedd hynny yn elwa o gael gwasanaethau mwy cydlynol.”  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Plant a phobl ifanc 28 Mawrth 2011 Tlodi plant Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i