Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Deunyddiau newydd yn rhoi mwy o lais i ddisgyblion

Heddiw, mae deunyddiau ar-lein newydd fydd yn annog mwy o bobl ifanc sy’n agored i niwed mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau, yn cael eu lansio gan y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis.
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2011

Bydd dros 80 o glipiau fideo byr ar gael ar wefan Llais Disgyblion Cymru sy’n dangos sut gall plant gymryd mwy o ran mewn prosesau gwneud penderfyniadau.  Hefyd, byddant yn dangos sut mae cymryd rhan yn gallu gwella’r profiad a gaiff y disgybl yn yr amgylchedd dysgu a’r dysgu ei hun hefyd.

Dywedodd Huw Lewis:  

“Un o’r prif resymau all rwystro pobl ifanc rhag cymryd rhan yn effeithiol yw agweddau oedolion ac yn aml, mae’r agweddau hynny’n seiliedig ar anwybodaeth a theimlo’n bryderus.  Gall hyd yn oed mwy o rwystrau godi mewn lleoliadau addysg arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

“Mae rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, nid yn unig i brofiad addysgol y disgybl ond, o ran yr effaith y gallant ei chael ar eu cymunedau hefyd.

“Yn ôl yr hyn y mae staff a disgyblion wedi’i ddweud wrthym, os yw’r disgyblion yn cael cyfle i gymryd rhan trwy gydol eu hamser yn yr ysgol, yna, maent yn teimlo mwy o ymdeimlad o berchenogaeth ac amgylchedd mwy cadarnhaol a bywiog.

“Llywodraeth Cynulliad Cymru oedd y llywodraeth gyntaf yn y DU i roi statws statudol i gynghorau ysgolion.  Bu hynny’n fodd i greu sianeli ffurfiol mewn ysgolion i ystyried barn plant a phobl ifanc.

“Fodd bynnag, os ydym yn mynd i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan ym mhob lleoliad addysg, mae’n rhaid i ni wneud mwy na dim ond sefydlu cynghorau ysgolion.

“Mae’r deunyddiau sy’n cael eu lansio heddiw wedi cael eu cynhyrchu gan bobl ifanc ac maent yn dangos sut mae cymryd rhan yn gallu gwneud gwahaniaeth, cynyddu cyfleoedd a sicrhau bod pobl ifanc yn ymddiddori yn eu dysgu eu hunain, lle bynnag y maent yn derbyn eu haddysg.

“Mae’r deunyddiau hyn yn anfon negeseuon pwysig iawn ynghylch sut mae pobl ifanc yn hoffi dysgu a’r rôl gadarnhaol y gallant ei chwarae yn eu hysgolion a’u cymunedau ehangach os ydynt yn cael y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

“Rwy’n gobeithio nawr y bydd pawb yn mynd yn ôl i’w hysgolion a’u cymunedau lleol ac yn dweud wrth eu ffrindiau a’u cyd-weithwyr am yr hyn y gall plant a phobl ifanc ei wneud pan fyddant yn cael y cyfleodd a’r gefnogaeth i wneud gwahaniaeth.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Hawliau plant a phobl ifanc

Gwefannau

Public Voice

Tagiau

Plant a phobl ifanc 29 Mawrth 2011 Ysgolion Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i