Mae rhaglen Dechrau’n Deg yn rhoi cymorth trwy gynnig gofal plant rhan-amser o ansawdd da am ddim i blant 2-3 blwydd oed. Hefyd, cynigir gwasanaethau gwell o ran ymweliadau iechyd, rhaglenni rhianta, a sesiynau iaith a chwarae i bob plentyn 0-3 blwydd oedd a’u teuluoedd, yn yr ardaloedd lle mae’r rhaglen ar waith. Cafodd y rhaglen ei lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2007, ac ers hynny mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o deuluoedd ledled Cymru.
Mae’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi cymeradwyo £1,012,798 o arian cyfalaf ar gyfer prosiectau ar Ynys Môn ac yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam.
Dywedodd Gwenda Thomas:
“Mae plant yn gallu elwa’n fawr ar y gofal plant a gynigir o dan raglen Dechrau’n Deg. Maen nhw’n dysgu sgiliau cymdeithasol hanfodol ac yn cael eu hysgogi, yn gorfforol ac yn feddyliol, mewn ffordd sy’n eu paratoi yn dda ar gyfer mynd i’r ysgol feithrin ac wedyn i’r ysgol. Yn wir, mae ysgolion wedi dweud wrthym fod mwy o hyder gan blant sydd wedi manteisio ar y rhaglen hon a bod ganddynt sgiliau canolbwyntio a chyfathrebu gwell.
“Mae’r rhaglen wedi sicrhau bod gwasanaethau ar gael yn hawdd i’r teuluoedd y mae arnynt yr angen mwyaf amdanynt a bydd hynny yn y pen draw yn eu helpu i ddianc rhag tlodi.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i gadw ein haddewid i ddyblu nifer y plant sy’n cael elwa ar wasanaethau gwell o ran ymweliadau iechyd, lleoedd gofal plant am ddim a mwy o gymorth i deuluoedd trwy’r rhaglen Dechrau’n Deg yn ystod tymor hwn y Llywodraeth.”
Dyma’r prosiectau sy’n cael eu hariannu:
- £195,000 ar gyfer cyfleuster gofal plant newydd yn Ysgol y Graig yn Llangefni, Ynys Môn.
- £147,953 ar gyfer estyniad i Ysgol Gynradd Trelai i ddarparu rhagor o leoedd gofal plant a mwy o gymorth gyda rhianta; a £359,045 ar gyfer datblygu rhan o Ysgol Gynradd St Francis i ddarparu gofal plant Dechrau’n Deg. Yng Nghaerdydd y mae’r ddwy ysgol hyn.
- £175,000 ar gyfer darparu rhagor o leoedd gofal plant Dechrau’n Deg yn Ysgol Gynradd Sea View; a £20,000 i ddarparu rhagor o leoedd gofal plant Dechrau’n Deg yn Ysgol Gynradd Blaenymaes. Yn Abertawe y mae’r ddwy ysgol hyn.
- £62,400 ar gyfer estyniad i Ysgol Feithrin Parc Caia yn Wrecsam i ddarparu gofal i blant sydd ag anghenion arbennig ac anghenion ychwanegol; a £53,400 i ddatblygu amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg a chanolfannau teuluoedd yn Wrecsam.











