Bydd y cynllun Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd cyfun yn darparu hyd at £4 miliwn o arian i fudiadau yn y sector gwirfoddol sy’n gweithio ar draws Cymru. Mae'r arian yn cael ei ddarparu o dan gylch grant dwy flynedd newydd o 2012 i 2014, sydd ar agor i geisiadau.
Dywedodd Gwenda Thomas:
“Mae angen i'r trydydd sector ymateb i'r her sy'n ein hwynebu ar adeg pan mae cyllidebau pawb ohonom yn cael eu cwtogi. Trwy wneud newidiadau i ofynion ariannu’r Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd, y nod yw sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yn helpu i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwella bywydau pob plentyn yng Nghymru.
“Rydyn ni’n awyddus i annog ffyrdd arloesol a chydweithredol o weithio sy'n sicrhau bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o adnoddau. Rydyn ni o’r farn y bydd y newidiadau rydyn ni wedi eu gwneud i'r cynllun hwn yn helpu mudiadau yn y sector gwirfoddol i wneud hynny.”
Gall mudiadau a hoffai ystyried gwneud cais am arian gael rhagor o wybodaeth yn trwy ddilyn y dolen cyswyllt i'r dde o'r erthygl hon.











