Mae'r protocol yn rhan o'r camau effeithiol y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd gydag ystod eang o asiantaethau i sicrhau na fydd Cymru'n fodlon goddef unrhyw fasnachu mewn pobl.
Mae'r protocol yn cynnig cyfarwyddyd ymarfer i weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr o'r holl asiantaethau er mwyn eu helpu nhw i ddiogelu'n effeithiol y plant sy'n cael eu cam-drin a'u hesgeuluso gan oedolion sy'n masnachu ynddynt i mewn i'r DU ac o fewn y DU at ddibenion eu hecsbloetio. Bydd y protocol hwn yn rhan o'r gweithdrefnau cenedlaethol i amddiffyn plant a fydd yn sicrhau bod yr holl Fyrddau Amddiffyn Plant Lleol wedi ymrwymo i'w egwyddorion a'i arferion.
Roedd adroddiad gan y Comisiynydd Plant ('Ffiniau Pryder' a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2009) ac adroddiad gan Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad Cenedlaethol ar Fasnachu mewn Pobl ( 'Knowing No Boundaries' a gyhoeddwyd ym mis Mai 2010) yn tynnu sylw at broblem masnachu mewn pobl. Yn rhannol mewn ymateb i'r cyhoeddiadau pwysig hyn, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Grŵp Adolygu Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan lunio protocol ar gyfer Cymru Gyfan i sicrhau bod camau cyson ac effeithiol yn cael eu cymryd i ddiogelu plant.
Mae cynhyrchu'r protocol hwn yn dilyn penodiad Bob Tooby, cydgysylltydd cyntaf Cymru Gyfan ar gyfer atal masnachu mewn pobl. Rôl y cydgysylltydd yw codi ymwybyddiaeth o fasnachu mewn pobl er mwyn amlygu'r broblem gudd ac er mwyn dod â'r masnachwyr o flaen eu gwell.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas:
"Mae masnachu mewn plant yn drosedd ffiaidd sy'n digwydd yma yng Nghymru. Rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle sy'n gwrthwynebu masnachwyr mewn pobl, ac i gydnabod bod masnachu mewnol yr un mor debygol â masnachu plant o dramor.
"Rwy'n croesawu cyhoeddi Protocol Cymru Gyfan ar Fasnachu Plant gan ei fod yn cydnabod pwysigrwydd asiantaethau statudol a gwirfoddol sy'n cydweithio i fonitro, rhannu ac adrodd yn rheolaidd ar wybodaeth allweddol am fasnachu mewn pobl. Drwy safoni gweithdrefnau a rhannu deallusrwydd ledled Cymru gallwn helpu i amddiffyn plant sy'n ddioddefwyr, ac erlyn y masnachwyr."
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau:
"Mae masnachu mewn pobl i raddau helaeth yn para i fod yn drosedd gudd. Yn aml ni fydd awdurdodau'n cydnabod maint y broblem ac ni fydd dioddefwyr bob amser yn gwybod lle i fynd am help.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu dioddefwyr troseddau o'r fath a chefnogi'r awdurdodau i ddod â'r rhai sy'n gyfrifol o flaen eu gwell.
"Bydd Protocol Cymru Gyfan ar Fasnachu Plant, ynghyd â phenodiad Bob Tooby fel cydgysylltydd cyntaf Cymru Gyfan ar gyfer atal masnachu mewn pobl, yn codi ymwybyddiaeth o broblem masnachu mewn pobl, yn dod â mwy o'r troseddwyr o flaen eu gwell ac yn gwella'r ymateb a gaiff plant sy'n ddioddefwyr."











