Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
“Rydw i’n ddiolchgar i’r Cadeirydd ac aelodau’r Panel am eu gwaith craff a’u diwydrwydd wrth gynnal yr adolygiad hwn. Mae’r system Cyfiawnder Teuluol yn bartneriaeth gymhleth o weithwyr proffesiynol sy’n hyrwyddo lles plant. Hoffwn adleisio sylwadau’r Panel a chanmol gallu ac ymrwymiad y rheini sy’n gweithio yn y maes anodd a heriol hwn.
“Mae llawer i’w ystyried yn Adroddiad y Panel, ond rydw i’n croesawu’r ffaith ei fod yn cydnabod yr oedi niweidiol sy’n gallu digwydd i blant yn y system gofal, a sut mae’r oedi hwnnw’n gallu cael effaith andwyol ar y canlyniad o’u safbwynt hwy. Rydw i bob amser wedi mynnu taw lles y plentyn sy’n dod gyntaf, a buddiant y plentyn yw’r flaenoriaeth. Byddaf yn sicrhau bod ein gweithwyr proffesiynol mwyaf galluog yn cael yr hyn y mae ei angen arnynt i helpu plant i wneud y gorau o’u cyfleoedd bywyd.”
“Mae ein Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a’n Rhaglen Lywodraethu yn nodi ei bod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru i arwain a bwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio gwasanaethau yng Nghymru. Byddwn ni’n gwneud hynny’n seiliedig ar nod cenedlaethol cryf ac atebolrwydd clir, a chyda chymorth gwerthfawr gweithlu proffesiynol cymwys a hyderus.”
“Yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, rydyn ni’n dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu casgliadau’r Adolygiad, yn unol â’i hegwyddorion ac yng ngoleuni anghenion plant yng Nghymru. Rydyn ni’n disgwyl i hawliau a lleisiau plant gael lle canolog yn y broses, ac y bydd dulliau cadarn ar waith i sicrhau bod eu sylwadau yn cael eu clywed.”
“Mae hwn yn faes cymhleth sy’n cynnwys cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli ac sydd heb eu datganoli. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i gasgliadau’r Panel erbyn diwedd y flwyddyn.”











