Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dirprwy Weinidog yn ymateb i adroddiad Comisiynwyr Plant y DU ar CCUHP

Mae Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant, wedi ymateb i gyhoeddi adroddiad canol tymor Comisiynwyr Plant y DU ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Dydd Llun 21 Tachwedd 2011

Dywedodd Gwenda Thomas:

"Mae adroddiad canol tymor Comisiynwyr Plant y DU yn dangos yn glir ymrwymiad y DU i hyrwyddo’r ddealltwriaeth a’r wybodaeth am hawliau plant. Mae’n nodi faint o waith rydym wedi llwyddo i’w gyflawn a hefyd faint o waith  sydd ar ôl i’w wneud.

“Rydym yn falch o allu dweud mai ni yng Nghymru yw’r gyntaf o awdurdodaethau’r DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yw un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth a wnaed ar gyfer blant a phobl ifanc ers blynyddoedd lawer, ac mae’n galluogi ni i gymryd cam hanesyddol ymlaen wrth gefnogi hawliau plant a phobl ifanc.

“Mae Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel gwlad sy’n  effeithiol iawn o ran hyrwyddo gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant, a byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â Chomisiynydd Plant Cymru i gyflawni ein rhwymedigaethau.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Plant a phobl ifanc

Tagiau

Plant a phobl ifanc 21 Tachwedd 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i