Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Diwrnod hanesyddol ar gyfer hawliau plant yng Nghymru

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, fod heddiw yn ddiwrnod hanesyddol ar gyfer hawliau plant yng Nghymru, y wlad gyntaf ym Mhrydain i wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig.
Dydd Iau 17 Mawrth 2011

Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) wedi'i gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor, ac mae wedi dod yn rhan o gyfraith Cymru.  

Mae'r Mesur yn cynnwys nifer o ddarpariaethau a fydd yn cryfhau ac yn datblygu dull presennol Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n seiliedig ar hawliau, o lunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc 0-25 oed, a bydd hefyd yn cryfhau sefyllfa plant a phobl ifanc yn y gymdeithas yng Nghymru.

Meddai Huw Lewis:

"Mae'r Mesur hwn yn torri tir newydd ac yn sicrhau bod Cymru'n arwain y ffordd yn y DU drwy wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn rhan o'i chyfraith ddomestig.  Unwaith eto, mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i blant a phobl ifanc.

"Mae'r Ddeddfwriaeth hon yn croesi pob maes polisi, a thrwy wneud hynny bydd yn newid er gwell y ffordd y caiff yr holl gymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru eu cynllunio a'u darparu yn y dyfodol.

"Drwy roi mwy o bwyslais ar eu hawliau drwy ein polisïau a'n deddfwriaeth, byddwn ni'n sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn sefyllfa gryfach i gyflawni eu potensial a chyfrannu at ffyniant cymdeithasol ac economaidd Cymru."

Ychwanegodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru:

"Mae hon yn ddeddfwriaeth wirioneddol bwysig, sydd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol ym Mae Caerdydd. Dylen ni fod yn falch iawn bod Cymru a'i Llywodraeth yn arwain y ffordd unwaith eto o ran sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y lle y maen nhw'n deilwng ohono fel dinasyddion llawn yn ein gwlad. Mae'n rhaid i ni fynd ati nawr i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gwneud gwahaniaeth ymarferol cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc."

Meddai Anita Tiessen, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol UNICEF UK:

"Mae heddiw yn ddiwrnod nodedig i Gymru. Rydyn ni yn UNICEF UK wrth ein boddau bod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) wedi cael Cymeradwyaeth Frenhinol. Mae'r ddeddfwriaeth newydd hon, sy'n sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i holl bolisïau ac arferion Cymru, yn gosod y bar yn uchel ar gyfer gweddill y DU.

"Er bod mwy o waith i'w wneud i wireddu hawliau pob plentyn, mae hwn yn gam pwysig. Rydyn ni'n edrych ymlaen at helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ofalu bod y Mesur yn sicrhau newid go iawn i blant a phobl ifanc yng Nghymru."

Meddai Andrew Chalinder, pennaeth Achub y Plant yng Nghymru a Chadeirydd Grŵp Monitro'r Confensiwn yng Nghymru:

"Mae Achub y Plant a Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru yn croesawu'r ddeddfwriaeth bwysig hon fel rhywbeth hanesyddol i blant a phobl ifanc Cymru. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn unigryw yn y DU a hoffen ni longyfarch Llywodraeth y Cynulliad am ymgorffori'r Confensiwn yng nghyfraith Cymru a darparu fframwaith clir o atebolrwydd ar gyfer gwireddu hawliau dynol plant.

"Byddwn ni'n parhau â'n swyddogaeth bwysig o fonitro'r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud, er mwyn cydymffurfio â hawliau a rhwymedigaethau'r Confensiwn, a helpu i weithredu'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Mae adnodd dynamig ar-lein Achub y Plant – www.childrensrightswales.org.uk – hefyd yn ei gwneud yn bosibl i weithwyr proffesiynol ledled Cymru ddeall yn well hawliau dynol plant a sut mae eu gwireddu."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Hawliau plant a phobl ifanc

Gwefannau

save the children

Tagiau

Plant a phobl ifanc 17 Mawrth 2011 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ebrill 2012
Ll M M I G S S
<< Maw   Mai >>
            1
2 3 4 5 6 7 8
9 10 11 12 13 14 15
16 17 18 19 20 21 22
23 24 25 26 27 28 29
30            
I'n dilyn ni trowch i