Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi enw aelod terfynol Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Sir Benfro

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enw aelod terfynol Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion a sefydlwyd er mwyn cefnogi a goruchwylio’r newidiadau yn y trefniadau diogelu ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Benfro.
Dydd Llun 22 Awst 2011

Bydd Rose Seabourne yn ymuno â’r aelodau eraill, David Hopkins a Phil Robson, y cyhoeddwyd eu henwau eisoes, fel trydydd aelod y bwrdd. Gwaith Bwrdd Cynghori’r Gweinidogion fydd helpu’r awdurdod i ddatblygu cynllun gwella. Fe’i sefydlwyd yn dilyn ymchwiliad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) i’r modd y rheolwyd ac yr ymdriniwyd â honiadau o gam-drin proffesiynol, ynghyd â’r trefniadau ar gyfer diogelu a gwarchod plant mewn gwasanaethau addysg yng Nghyngor Sir Penfro.

Mae’r penodiadau yn dechrau ar unwaith ac mae aelodau’r bwrdd eisoes wedi dechrau ar eu gwaith gyda Chyngor Sir Penfro.

Dywedodd Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant:

“Rydym ni wedi gweithredu’n gyflym i benodi unigolion sydd â’r profiad a’r sgiliau angenrheidiol i gynorthwyo Sir Benfro ac rwy’n ddiolchgar iddynt am fod mor barod i ymgymryd â’u swyddogaethau.

“Fe ddywedais yr wythnos diwethaf fy mod yn credu bod ar y Cyngor angen cefnogaeth a her tîm allanol wrth iddynt gynhyrchu cynllun gweithredu ymarferol. Bydd y tîm hwn yn rhoi adroddiadau i Weinidogion Cymru ar ba mor gadarn yw gweithrediadau a chynlluniau gweithredu’r Cyngor.”

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau bod y gwendidau y tynnwyd sylw atynt yn cael eu datrys ar frys. Roedd yr hyn a welwyd yn yr adroddiad yr wythnos diwethaf yn gwbl annerbyniol. Rydym ni’n disgwyl i Gyngor Sir Penfro gymryd camau cryf a phendant, a hynny ar frys, a bydd y bwrdd yr enwyd ei aelod olaf heddiw yn eu helpu i gyflawni hynny. Ni fydd plant a’u rhieni yn Sir Benfro yn disgwyl dim llai.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gwasanaethau cymdeithasol

Tagiau

Plant a phobl ifanc 22 Awst 2011 Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i