Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyhoeddi adroddiad gwerthuso Dechrau’n Deg

Mae’r Dirprwy Weinidog Plant Gwenda Thomas wedi ymateb i gyhoeddi adroddiad yr arolwg cyntaf o’r rhaglen Dechrau’n Deg. Dywedodd y byddai’r adroddiad yn cynnig tystiolaeth ddefnyddiol wrth i’r rhaglen ymestyn a datblygu.
Dydd Mercher 14 Rhagfyr 2011

Mae’r adroddiad yn rhoi cipolwg i ni o natur Teuluoedd Dechrau’n Deg a’r heriau y maent yn eu hwynebu. Mae’n cynnig cyfoeth o wybodaeth am y defnydd a’r profiad o Dechrau’n Deg o safbwynt teuluoedd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

“Beth sy’n fy nharo i am yr adroddiad hwn yw bod y rhieni yn yr ardaloedd lle mae’r rhaglen ar waith yn gadarnhaol iawn am effaith y rhaglen Dechrau’n Deg. Mae hynny’n cyd-fynd â’r hyn rwyf finnau wedi ei glywed gan rieni a staff rheng flaen sy’n ymwneud â darparu’r rhaglen, yn ogystal â’r sylfaen dystiolaeth ehangach ar gyfer y rhaglen.”

“Rhaid i ni gofio bod yr ardaloedd lle mae Dechrau’n Deg yn gweithredu ymysg y mwyaf difreintiedig yng Nghymru a bod y teuluoedd yn yr ardaloedd hynny yn rhai o’r anoddaf i’w cyrraedd. Rhaid ystyried yr adroddiad o fewn y cyd-destun hwnnw. Dylem gofio hefyd ei bod yn ddyddiau cynnar i’r rhaglen o hyd, ac rwy’n disgwyl gweld gwelliannau pellach dros y tymor hir.”

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i werthuso effaith y rhaglen, a bydd yr adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth y gallwn ei defnyddio i’w datblygu a’i hehangu.”

“Byddaf yn gwneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol am yr adroddiad hwn cyn gynted â phosibl yn y Flwyddyn Newydd.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Plant a phobl ifanc 14 Rhagfyr 2011 Tlodi plant Y Blynyddoedd cynnar Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i