Mae’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, wedi cyhoeddi y bydd 34 o fudiadau ledled Gymru yn elwa ar yr arian hwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r Grant Mudiadau Plant a Theuluoedd yn rhoi arian craidd i fudiadau gwirfoddol sy’n gweithredu ar draws Cymru gyfan, ac sy’n darparu gwasanaethau sy’n cyfrannu at roi polisïau plant, pobl ifanc a theuluoedd Llywodraeth Cymru ar waith. Pwrpas y grant yw datblygu capasiti mudiadau gwirfoddol cymwys sy’n helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o greu cymdeithas fwy cynhwysol sy’n rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn.
Dywedodd Gwenda Thomas:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i helpu’r sector gwirfoddol er gwaethaf yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
“Er bod cyfyngiadau ar wario cyhoeddus, rhaid inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar fudiadau sy’n sicrhau bod lles ein plant a’n pobl ifanc yn ganolog i’w penderfyniadau.”
I fod yn ymgeisydd cymwys, roedd yn rhaid bod yn fudiad sy’n perthyn i’r trydydd sector neu’n rhan o grŵp o fudiadau trydydd sector sy’n helpu plant a’u teuluoedd. Roedd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gorfod dangos bod eu gwasanaethau’n cynnig gwerth am arian, yn cyfrannu at amcanion a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’u bod yn gweithredu ledled Cymru.











