Mae disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Gynradd Pontllanfraith yng Nghaerffili wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n rhan o gynllun PUPIL (Pupils Understanding Problems In their Locality) sy’n cael ei gefnogi gan arian Ewropeaidd a’i arwain gan Gymdeithas Atal Troseddu Cwm Cynon.
Fel rhan o’r cynllun, bu’r plant yn cynnal ymchwil i’r problemau y mae disgyblion yn wynebu wrth symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd. Hefyd, aethon nhw i gynhadledd gwrthfwlio yn Llundain lle cawson nhw’r syniad i gynnal eu cynhadledd eu hunain ar gyfer disgyblion blwyddyn chwech yn eu hardal.
Cynhaliwyd y gynhadledd undydd ar 29/02/12 yn swyddfa Cyngor Caerffili yn Nhŷ Penallta am yr effaith y gall bwlio ei chael ar bobl ifanc a mesurau i fynd i’r afael â’r broblem. Cafwyd cyflwyniadau gan y disgyblion ac fe lansiwyd ffilm ar wrthfwlio y gwnaethon nhw ei chynhyrchu.
Dywedodd Eleanor Jones, Cymdeithas Atal Troseddu Cwm Cynon:
“Mae’r disgyblion wedi gweithio’n ddiflino trwy gydol y flwyddyn yn paratoi ar gyfer y digwyddiad hwn. Maen nhw wedi bod yn datblygu pecynnau adnoddau, bagiau o bethau da a bocsys i bostio sylwadau ar fwlio er mwyn helpu pobl ifanc eraill sy’n teimlo eu bod yn cael eu heithrio oherwydd bwlio ac yn methu â chyrraedd eu llawn botensial yn yr ysgol.”
Mae’r prosiect PUPIL yn gynllun unigryw sy’n targedu pobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed y mae problemau fel bwlio, camddefnyddio deunyddiau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt a’u helpu i ddatblygu sgiliau a’u paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Gan weithio gydag athrawon, gweithwyr addysg, gweithwyr cymunedol a’r heddlu, nod y prosiect yw adnabod y rheini sydd fwyaf mewn perygl o gael eu datgysylltu o fyd gwaith (Pobl Nad Ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth Na Hyfforddiant - NEET) a’r ffordd orau i fynd i’r afael â phroblemau penodol y mae unigolion yn eu hwynebu a’u helpu gyda sgiliau sylfaenol fel rhifedd a llythrennedd.
Ychwanegodd Ms Jones:
“Rydym yn helpu disgyblion i ddatblygu eu cynlluniau gweithredu i daclo’r problemau hyn trwy gynnal prosiectau a fydd yn gwella eu hyder, eu sgiliau a’u gallu i ddod o hyd i waith ac i wneud cyfraniad pwysig yn eu cymunedau.”
Mae’r prosiectau hyn, fel trefnu’r gynhadledd hon, yn canolbwyntio ar broblemau fel bwlio a chamddefnyddio sylweddau ac maent wedi’u cysylltu â Chynlluniau Camau Gweithredu Diogelwch Cymunedol pob awdurdod lleol.
Un o’r disgyblion a fu’n helpu i drefnu’r gynhadledd oedd Nathaniel Easthope. Dywedodd:
“Fe wnaethom ddewis ymchwilio i fwlio gan ei fod yn rhywbeth sy’n effeithio ar lawer ohonom ar ryw bwynt yn ein bywydau. Gyda’r digwyddiad hwn, rydym yn gobeithio rhoi diwedd ar fwlio’n gyfan gwbl.”
Mae’r cynllun PUPIL ar waith ar draws Torfaen, Merthyr Tudful, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Rhaglenni Ewropeaidd:
“Rwy’n falch ein bod wedi gallu defnyddio arian Ewropeaidd i daclo rhai o’r problemau sy’n gallu atal pobl ifanc rhag gwireddu eu potensial yn llawn. Byddwn yn defnyddio’r arian i fynd i’r afael â’r problemau sylfaenol hyn sy’n gallu arwain at ddiweithdra ac anweithgarwch economaidd yn yr hirdymor. Byddwn hefyd yn defnyddio’r arian i hybu dinasyddiaeth dda.”











