Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Hawliau plant - Llywodraeth Cymru yn "torri tir newydd"

Mae Cymru ar flaen y gad yn y Deyrnas Unedig o ran hawliau plant. O heddiw ymlaen, bydd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.
Dydd Llun 30 Ebrill 2012

Mae'r ddyletswydd sy'n dod i rym heddiw yn golygu y bydd rhaid i'r Gweinidogion ystyried hawliau plant a phobl ifanc ym mhob penderfyniad y byddant yn ei wneud am ddeddfwriaeth a pholisïau, yn ogystal ag wrth newid polisïau sy'n bodoli'n barod.

Ategir hyn gan Fesur Hawliau Plant Llywodraeth Cymru, sy'n nodi sut y bydd y drefn hon yn gweithio'n ymarferol. Mae'r Mesur hefyd yn cynnig ffordd hawdd a hwylus i blant a phobl ifanc herio'r Llywodraeth os ydynt yn teimlo nad yw eu hawliau wedi cael eu hystyried.

Bydd gwaith monitro, gwerthuso ac adrodd yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod y sylw hwn i hawliau plant yn cael effaith.

I gyd-fynd â hyn, bu Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Plant, ar ymweliad ag Amgueddfa Lofaol Big Pit yn Nhorfaen, lle bu'n trafod gyda phlant o ysgolion lleol sut mae eu bywydau a'u hawliau nhw yn cymharu â'r sefyllfa fel yr oedd hi i genedlaethau'r gorffennol.

Meddai'r Dirprwy Weinidog:

"Rwy'n falch iawn o gael bod yn rhan o'r achlysur hanesyddol hwn, yn fy rôl fel y gweinidog sy'n gyfrifol am y portffolio plant. Mae Cymru'n torri tir newydd o ran hawliau plant, a bydd gwledydd eraill yn edrych ar ein profiadau ni wrth iddyn nhw fynd ati i roi'r confensiwn ar waith.

"Rydyn ni wedi dod yn bell iawn ers 2004, pan fabwysiadwyd y Confensiwn Hawliau Plant ar gyfer ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc. O hyn ymlaen, bydd y confensiwn hwn yn sail i holl waith Llywodraeth Cymru wrth inni fynd ati i wella polisïau a deddfwriaeth er mwyn helpu i wella bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.

"Rydyn ni wedi buddsoddi mewn gwasanaethau gwybodaeth, cynghori ac eiriolaeth er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn, yn cael cymryd rhan ym mywyd y gymdeithas ac yn cael cymorth lle bo'i angen.

"Bydd plant yng Nghymru yn gweld bod eu llywodraeth yn rhoi sylw i'w hanghenion, a hefyd i'w hawl i fod yn ddiogel, i gael eu clywed ac i gael cyfleoedd a phrofiadau cadarnhaol a fydd yn fuddiol iddyn nhw weddill eu bywydau."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Plant a phobl ifanc

Tagiau

Plant a phobl ifanc 30 Ebrill 2012 Programme for Government - Equality Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i