Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Dechrau cyfnod newydd ar gyfer creadigrwydd yng Nghymru

Mae Rhodri Glyn Thomas, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi cadeirio cyfarfod cyntaf Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau.
Dydd Mercher 07 Tachwedd 2007

Cafodd Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau ei sefydlu mewn ymateb i'r argymhelliad yn Adroddiad Stephens y dylid creu fforwm, o dan gadeiryddiaeth y Gweinidog Treftadaeth, a fyddai'n sicrhau dull gweithio mwy cydlynol ar gyfer datblygu polisïau a strategaethau ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn fodlon iawn â'r cyfarfod positif ac adeiladol cyntaf, gan ddweud:

Mae Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau yn arwydd o newid yn y ffordd y mae'r Llywodraeth a sefydliadau sy'n cefnogi ac yn cynnig darpariaeth gelfyddydol yn cydweithio.

Mae'r Bwrdd hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i gydweithio mewn modd agored, tryloyw a chydweithredol er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu polisïau a strategaethau sy'n cryfhau ac yn datblygu'r celfyddydau yng Nghymru.

Bydd Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau yn darparu cyngor arbenigol i mi fel Gweinidog er mwyn fy helpu i ddatblygu polisïau a strategaethau ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru a hyrwyddo rôl y celfyddydau o fewn Llywodraeth y Cynulliad.

Fodd bynnag, rwy’n ailddatgan fy ymrwymiad i gadw’r egwyddor 'hyd braich' wrth ariannu'r celfyddydau, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rwyf eisoes wedi'i derbyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru ers cael fy mhenodi'n Weinidog.

Roedd Adroddiad Stephens yn bwysig wrth ailddiffinio'r berthynas rhwng y Llywodraeth, Cyngor y Celfyddydau a'r gymuned gelfyddydol. Roedd hefyd yn cydnabod rôl bwysig llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a sectorau allweddol eraill.

Mae aelodaeth Bwrdd Strategaeth y Celfyddydau yn adlewyrchu pwysigrwydd cydweithio â'r sectorau allweddol hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Bwrdd dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ogystal, hoffwn dalu teyrnged i'r holl unigolion dawnus a diwyd sy'n parhau i greu, ffynnu a herio. Ar ddiwedd y dydd, mae'r bobl hyn yn hanfodol er mwyn gwneud y wlad hon yn lle gwell i fyw ynddi.

Yn ystod y cyfarfod

  • Cytunodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai'n datblygu cynigion cychwynnol ar gyfer cael statws Cwmni Cenedlaethol erbyn mis Chwefror 2008
  • Cafodd Cyngor Celfyddydau Cymru'r dasg o gydweithio â Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu cynigion ar gyfer cwmnïau disglair erbyn mis Chwefror 2008
  • Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cynigion ar gyfer partneriaethau rhanbarthol erbyn mis Chwefror 2008

Dywedodd Yr Athro Dai Smith, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru :

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i weithio ar waith trawsbynciol gyda’n partneriaid yn y sector a gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu strategaeth ddiwylliannol.

Dywedodd Goronwy Edwards, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o grŵp cynhyrchiol hwn ac edrychwn ymlaen at weithredu argymhellion adroddiad Stephens drwy’r grwp.

Dywedodd Jacquy Box, Cydlynnydd, Celfyddydau Gwirfoddol Cymru :

Rydyn ni’n hapus iawn i gael y cyfle i gynrychioli’r celfyddydau gwirfoddol ar y Bwrdd ac yn edrych ymlaen at fod yn ddolen gyswllt rhwng sefydliadau ar lawr gwlad a Llywodraeth y Cynulliad er mwyn mynegi eu pryderon i’r Gweinidog yn uniongyrchol.

Dywedodd Rachel Jones, Cyfarwyddwr, Celfyddydau a Busnes Cymru:

Rydyn ni’n croesawi’r cyfle i gyd-weithredu gyda phartneriaid allweddol i gyfrannu at les y celfyddydau yng Nghymru ac i sicrhau bod y berthynas gyda’r sector breifat yn ffrwythlon ledled Cymru.

Dywedodd Eluned Haf, Cyfarwyddwr, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

Rydyn ni’n hapus iawn i chwarae rhan yn natblygiad y celfyddydau yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Rydyn ni’n gobeithio sicrhau fod y cyfoeth o dalent sydd gyda ni yng Nghymru yn cael ei arddangos ar lwyfan y byd. 

7 Tachwedd 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diwylliant a chwaraeon Y celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 07 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i