Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cyllid ychwanegol yn hwb i dreftadaeth Cymru

Heddiw (dydd Mercher, 7 Tachwedd), cyhoeddodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Rhodri Glyn Thomas, y byddai £36 miliwn ychwanegol ar gael dros y tair blynedd nesaf tuag at yr ymrwymiadau ar gyfer y portffolio Treftadaeth sydd yn y ddogfen Cymru’n Un.
Dydd Mercher 07 Tachwedd 2007

Dywedodd y Gweinidog hefyd, fodd bynnag, fod amodau ynghlwm wrth y cynnydd yn y cyllid er mwyn sicrhau y caiff y defnydd gorau posibl ei wneud o’r arian ychwanegol. “Rwyf wrth fy modd y bydd y gyllideb ar gyfer Treftadaeth yn cynyddu yn ystod y tair blynedd nesaf ac rwy’n hyderus y bydd y gyllideb ddrafft yn ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiadau yn y ddogfen Cymru’n Un,” meddai.

"Mae creu amgylchedd a fydd yn fodd i ddatblygu a hybu potensial creadigol Cymru yn un o brif flaenoriaethau’r portffolio hwn. Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ar Fwrdd Strategaeth y Celfyddydau i roi argymhellion Adroddiad Stephens ar waith a bydd cronfa deilyngdod o £4.5 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i wobrwyo’r cwmnïau hynny sy’n cyrraedd y brig. Dyma gronfa gyllido gyffrous newydd a fydd yn annog arloesi a rhagoriaeth yn y celfyddydau ac yn gwobrwyo cyrff ac unigolion sy’n cyrraedd y brig.

"Bydd cwmni theatr Saesneg ei gyfrwng hefyd yn cael ei wireddu yng Nghymru o fewn y tair blynedd nesaf ac mae £2.25 miliwn ychwanegol wedi’i roi o’r neilltu ar gyfer y datblygiad arwyddocaol hwn ".

Dywedodd y Gweinidog hefyd ei fod yn awyddus i weld pob rhan o’i bortffolio yn gweithio’n agos â’i gilydd i wneud y defnydd gorau posibl o’r arian ychwanegol. Ymhlith y blaenoriaethau allweddol fydd y gwaith o alinio gwaith Croeso Cymru, cangen twristiaeth y Cynulliad a Cadw, y gwasanaeth sy’n gyfrifol am yr amgylchedd hanesyddol, wrth roi ar waith Gynllun Gweithredu ar gyfer Twristiaeth Gynaliadwy. Bydd adnewyddu’r strategaeth ar gyfer Twristiaeth Ddiwylliannol i Gymru hefyd yn flaenoriaeth.

Bydd Cadw yn parhau â’i raglen o welliannau i atyniadau i ymwelwyr megis gwella mynedfeydd i Safle Treftadaeth y Byd yng Nghastell Caernarfon a chreu cyfleusterau newydd i ymwelwyr yno, gwaith ar furiau tref Dinbych a datblygiadau sylweddol yng Nghwrt Tre-tŵr ger Aberhonddu.

Bydd y diwydiant twristiaeth yn elwa ar y Gronfa Fuddsoddi Sengl lle bydd busnesau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth a phrosiectau mwy yn gallu cael hyd i gronfa fwy o arian o dan un cynllun grant. Dywedodd y Gweinidog, “Mae gan Gymru gynnyrch arbennig i’w gynnig i ymwelwyr sy’n rhoi iddynt ymdeimlad o’r lle, y diwylliant, yr iaith a’r dreftadaeth nodedig sydd gennym i’w cynnig yma yng Nghymru. Mae hyn oll, ynghyd â’r llety a’r atyniadau o’r radd flaenaf y gall Cymru eu cynnig i ymwelwyr yn golygu ei bod yn gystadleuol iawn fel cyrchfan.

“Y mae yna ofynion sylweddol ar y gyllideb o hyd fodd bynnag ac, yn yr un modd, bydd yn rhaid i benderfyniadau anodd gael eu gwneud o hyd o ran blaenoriaethau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd. Dyma amser da felly i ystyried ac adolygu sut yr awn ati i wneud pethau a gweld a oes yna ddulliau y gallwn eu defnyddio er mwyn bod yn fwy craff neu’n fwy effeithiol wrth weithio a gwneud pethau’n well.”

Y prynhawn yma, cyhoeddodd y Gweinidog hefyd becyn cyllido i sicrhau mwy o ddiogelwch ariannol i Ganolfan Mileniwm Cymru ac i ddiogelu dyfodol y sefydliad sydd bellach yn ennyn parch a chydnabyddiaeth yn eang.

Dywedodd, “Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi llwyddo i ddenu mwy na thraean miliwn o gwsmeriaid sydd wedi talu am eu tocynnau mynediad, bob blwyddyn ers ei sefydlu dair blynedd yn ôl. Mae wedi llwyddo i gynyddu’r gynulleidfa ar gyfer digwyddiadau diwylliannol drwy ddenu cwsmeriaid o bob rhan o Gymru. Pleser yw cael cyhoeddi heddiw bod y Gweinidog dros Gyllid wedi cytuno i dalu’r benthyciad o £13.5 miliwn a dderbyniodd y prosiect gan HSBC. Rydym hefyd yn cynyddu’r cyllid refeniw rheolaidd blynyddol gan y Llywodraeth i £3.7 miliwn y flwyddyn nesaf a’r blynyddoedd wedi hynny hyd at y flwyddyn ariannol 2010-2011, sef cynnydd o £2.5 miliwn. Ni fydd hyn ar draul cyllideb y celfyddydau yn fwy cyffredinol na’r celfyddydau tu allan i Gaerdydd, fodd bynnag, gan y bydd cynnydd ar gyfer yr holl sefydliadau diwylliannol yr wyf yn gyfrifol amdanynt.”

Bydd y portffolio yn parhau â rhaglen o fuddsoddiadau cyfalaf a gwaith adnewyddu ar rwydwaith y llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn mynd yn ei flaen ochr yn ochr â’r buddsoddi mewn TGCh mewn llyfrgelloedd, gan gynnwys cytundeb ar gyfer Cymru gyfan i gyflwyno amrywiaeth eang o wasanaethau masnachol ar-lein.

Yn unol ag argymhellion y Prif Swyddog Meddygol i fynd i’r afael â gordewdra ac iechyd gwael yng Nghymru, bydd y gyllideb ar gyfer chwaraeon a Chymru egnïol yn cynyddu i £29 miliwn erbyn 2010 er mwyn adeiladu ar fomentwm rhaglenni fel Nofio am Ddim, 5 x 60 a’r prosiect Cymru Egnïol. Bydd arian yn cael ei roi hefyd i wella’r cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau chwaraeon, i ddatblygu mwy o arweinwyr a hyfforddwyr a gwella eu sgiliau, a chreu strwythurau cystadlu mwy effeithiol ar lefel ysgolion, clybiau, sirol, rhanbarthol a chenedlaethol

“Mae’r gwahanol elfennau o’m portffolio yn gydnaws iawn â’i gilydd – mae hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru, a hefyd dwristiaeth a gweithgareddau yn ymwneud â Chymru egnïol a gweithgareddau awyr agored oll yn rhan o fy nghyfrifoldebau. Rwy’n benderfynol o gael y budd mwyaf posibl o’r cysylltiadau hyn ac rwyf am i’r holl feysydd sy’n rhan o’m portffolio weithio’n agos â’i gilydd er mwyn cyflawni mwy,” ychwanegodd y Gweinidog dros Dreftadaeth.

Nodiadau i olygyddion

  • Dros y pedair mlynedd nesaf bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio gyda’n partneriaid ni ar Fwrdd Strategaeth y Celfyddydau i wireddu argymhellion adroddiad Stephens. Roedd cyfarfod cyntaf yn Bwrdd yn gynt yr wythnos yma yn  bositif a chadarnhaol a cytunwyd y byddai Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth y Cynulliad yn cyd-weithio i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cwmniau disglair erbyn 2008.
  • Fe hysbysebwyd am swydd Cadeirydd Cwmni Theatr Saeseg i Gymru ym mis Medi, a bydd yr apwyntiad yn cael ei wneud maes o law. Bydd y Cwmni Theatr yn datblygu y gorau o dalent yng Nghymru a thu hwnt, ac yn creu cynhyrchiadau gwych.

7 Tachwedd 2007

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diwylliant a chwaraeon

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 07 Tachwedd 2007
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i