Bydd Mr Thomas yn rhoi’r anerchiad yn nerbyniad y gynhadledd yng Ngwesty’r Cliff, Gwbert, Ceredigion o flaen bron i 100 o bobl. Mae’r Gymdeithas Ymddiriedolaethau Cadwraeth yn hwyluso gwaith ymddiriedolaethau cadwraeth adeiladau yng Nghymru a’r DU yn ehangach wrth adfer a diogelu adeiladau hanesyddol sydd wedi’u hesgeuluso a hwyluso gwaith adfywio cymunedol. Caiff cynhadledd eleni ei chynnal gan Cytal-APT, cangen Gymreig y Gymdeithas. Thema’r gynhadledd yw lleihau, rheoli a chymryd risgiau wrth ddatblygu prosiectau o’r fath.
Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC,
Roeddwn i wrth fy modd yn cael derbyn y gwahoddiad hwn oddi wrth Gymdeithas y DU i siarad yn ei chynhadledd genedlaethol flynyddol. Mae’r Gymdeithas yn gwneud gwaith pwysig wrth helpu a hwyluso’r gwaith o arbed ac atgyweirio adeiladau hanesyddol yng Nghymru a’r DU yn ehangach ac, yn benodol, mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru gan swyddog datblygu Cymru Cytal-APT yn amhrisiadwy. Mae thema’r gynhadledd yn ffordd amserol o atgoffa pobl o’r risgiau y mae pob ymddiriedolaeth cadwraeth adeiladau yn eu hwynebu wrth ddatblygu eu prosiectau a bydd y digwyddiad hwn yn ysgogi trafodaeth ynghylch y materion hyn ac yn rhoi cyfle i ymddiriedolaethau ddod o hyd i ffyrdd o ddatrys eu problemau unigol.
Dywedodd Peter White, Cadeirydd Cytal-APT,
Mae Cytal-APT yn falch o gael cynnal cynhadledd Cymdeithas y DU eleni yma yng Nghymru. Mae’r cynrychiolwyr wedi cael cyfle i ymweld â’r castell a’r dref a wnaeth, gobeithio, roi cip iddynt ar adeiladau hanesyddol Cymru ac arwyddocâd i’r dref fach hon. Mae Aberteifi yn enghraifft dda o adfywio drwy gadwraeth adeiladau hanesyddol o dan Fenter Treftadaeth Treflun.
19 Hydref 2007











