Mae’r Prif Weinidog wedi darparu’r rhagair i un o’r llyfrau yn y set nesaf o lyfrau i’w cyhoeddi yn y gyfres “Library of Wales”. Mae Sport : a Library of Wales Anthology yn gasgliad o’r ysgrifennu gorau ym maes chwaraeon yng Nghymru, ac mae wedi’i olygu gan Gareth Williams, sy’n awdur ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg ac ynddo ceir gwaith gan Richard Burton, Dylan Thomas a Dannie Abse.
Dywedodd Rhodri Morgan:
Anrhydedd mawr i fi oedd y gwahoddiad i ysgrifennu rhagair un o’r llyfrau yn y gyfres “Library of Wales” gan fod chwaraeon mor bwysig i mi yn ogystal ag i lawer o bobl eraill yng Nghymru.
O ystyried mai gwlad fach ydym, heb os nac oni bai, rydym yn gwybod sut i gynhyrchu talent ym maes chwaraeon. O Guto Nyth Bran i Tommy Farr, o Gareth Edwards i Joe Calzaghe, o Colin Jackson i Tanni Grey Thompson, bu gennym ac mae gennym o hyd, nifer helaeth o arwyr chwaraeon i’w hedmygu. Mae’r detholiad yn cynnwys y goreuon ym maes ffuglen, disgrifiad o brofiadau byw a barddoniaeth, felly mae 'na rywbeth yma i bawb. A ninnau wedi gwirioni gymaint ar chwaraeon, does dim rhyfedd bod awduron o Gymru wedi ysgrifennu cymaint amdanynt, a hynny mewn ffordd mor wefreiddiol.
Lansiwyd y gyfres “Library of Wales” a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad yn 2006 er mwyn ailargraffu casgliad o lyfrau clasurol modern o Gymru. Mae’r gyfres wedi’i golygu gan yr Athro Dai Smith. Mae llyfrau eraill i’w cyhoeddi yn ddiweddar yn yr un gyfres yn cynnwys Poetry 1900-2000, sy’n ymdrin â datblygiad barddoniaeth Saesneg yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif, the Withered Root, stori am ddiwygiad crefyddol 1904 a Rhapsody, casgliad o straeon byrion gan Dorothy Edwards.
Hydref 24, 2007











