Bydd y cyllid yn rhoi cyfle i amgueddfeydd ac archifau lleol ddatblygu eu gwasanaethau a denu pobl newydd i fwynhau trysorau ein diwylliant a’n treftadaeth. Bydd llyfrgelloedd hefyd yn gallu ymgeisio am grantiau ar gyfer moderneiddio’u cyfleusterau yn ogystal â gwella TGCh, hyfforddiant staff a gwaith partneriaeth.
Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones:
Mae ein hamgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn hollbwysig ar gyfer cadw a darparu mynediad at y cyfoeth ac amrywiaeth o ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru. Rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gan ymrwymiad a brwdfrydedd y staff a’r gwirfoddolwyr yn y sector hwn ac rwy’n sicr y byddant yn cyflwyno ceisiadau o ansawdd uchel i ddefnyddio’r cyllid hwn mewn modd arloesol.
Mae cynyddu’r cyllid ar gyfer moderneiddio llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhan o’n hymrwymiad ni i greu rhwydwaith llyfrgelloedd gwirioneddol addas ar gyfer y 21ain ganrif, sy’n cyfateb i anghenion pobl. Dengys canlyniadau’r arolwg diweddar, Byw yng Nghymru, bod llyfrgelloedd yn parhau i ddarparu gwasanaeth pwysig a gwerthfawr i lawer o aelodau ein cymunedau, gan roi mynediad at lyfrau ac adnoddau ar-lein yn rhad ac am ddim – ac mae swyddogaeth fel hon yn bwysicach nac erioed yn y cyfnod economaidd anodd hwn. Bydd y ceisiadau o’r sector hwn am gyllid o’r gronfa yn sicrhau ein bod yn gwneud y buddsoddiadau cywir yn y cyfleusterau ac edrych ar ôl y gwasanaeth hwn, sydd mor agos at ein calon.
Dyfernir y grantiau, sy’n gwneud cyfanswm o £4,360,000, trwy CyMAL: is-adran Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth y Cynulliad. Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 23 Ionawr 2009. Mae manylion am y cynlluniau grant ar gael ar www.cymal.wales.gov.uk.
18 Rhagfyr 2008











