Er nad oedd y Gweinidog yn medru bod yn bresennol yn y lansiad, danfonodd ei ddymuniadau gorau i’r cwmni o flaen blwyddyn gyffrous o ddigwyddiadau. O fis Mawrth 2010, mae’r cwmni yn bwriadu llwyfannu un cynhyrchiad y mis mewn lleoliadau amrywiol ar draws Cymru.
Meddai’r Gweinidog:
“Roedd ymrwymiad i sefydlu Theatr Iaith Saesneg i Gymru wedi ei gynnwys yn y rhaglen Cymru’n Un felly dwi’n hynod o falch i’w weld yn digwydd. Mae hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar lwyddiant Theatr Genedlaethol Cymru.”
“Mae gan National Theatre Wales raglen uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn gyntaf, a fydd yn denu cynulleidfa newydd a chreu gweithiau cyffrous newydd. Dwi’n dymuno pob hwyl iddynt.”
Ers cynnwys y syniad o gwmni theatr iaith Saesneg yn rhaglen lywodraethu Cymru’n Un, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn darparu cyllid o £3 miliwn i National Theatre Wales dros 3 mlynedd.
5 Tachwedd 2009











