Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Clod am Enillwyr Cwpan Ewrop Rygbi Triarddeg

Mae’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones wedi canmol Tîm Rygbi Triarddeg Cymru ar ôl eu gweld nhw’n ennill Cwpan Ewrop ar Faes y Bragdy, Pen-y-bont.
Dydd Sul 08 Tachwedd 2009
Alun Ffred Jones yn cwrdd â chwaraewyr Cymru cyn y gêm

Roedd rhaid i dîm ifanc Cymru ddangos ysbryd er mwyn hawlio’r tlws ar ôl i’r Alban fynd ar y blaen. Daeth y llwyddiant ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Serbia ac Iwerddon mewn gemau rhagbrofol ar y ffordd i’r rownd derfynol.

Dywedodd Alun Ffred Jones:

“Roedd ysbryd ac ymdrech Cymru yn wych i weld, roedd y ffordd roedden nhw’n trafod  y bêl yn slic ac roedden nhw’n dangos cymeriad a thalent wrth guro gwrthwynebwyr corfforol ac anodd.”

“Hoffwn i longyfarch y chwaraewyr, yr hyfforddwr Iestyn Harries a gweddill ei dîm hyfforddi yn gynnes ar y llwyddiant hwn. Mae ennill y Cwpan Ewropeaidd gyda thîm mor ifanc yn gamp sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.”

Cyfarfu y Gweinidog â phlant ysgolion lleol o ardal Pen-y-Bont, sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen ysgolion a drefnwyd gan Rygbi Triarddeg Cymru ac wedi derbyn hyfforddiant gan staff Rygbi Triarddeg Cymru a thîm rygbi triarddeg y Croesgadwyr Celtaidd.

8 Tachwedd 2009

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 08 Tachwedd 2009
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i