Roedd rhaid i dîm ifanc Cymru ddangos ysbryd er mwyn hawlio’r tlws ar ôl i’r Alban fynd ar y blaen. Daeth y llwyddiant ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Serbia ac Iwerddon mewn gemau rhagbrofol ar y ffordd i’r rownd derfynol.
Dywedodd Alun Ffred Jones:
“Roedd ysbryd ac ymdrech Cymru yn wych i weld, roedd y ffordd roedden nhw’n trafod y bêl yn slic ac roedden nhw’n dangos cymeriad a thalent wrth guro gwrthwynebwyr corfforol ac anodd.”
“Hoffwn i longyfarch y chwaraewyr, yr hyfforddwr Iestyn Harries a gweddill ei dîm hyfforddi yn gynnes ar y llwyddiant hwn. Mae ennill y Cwpan Ewropeaidd gyda thîm mor ifanc yn gamp sy’n argoeli’n dda ar gyfer y dyfodol.”
Cyfarfu y Gweinidog â phlant ysgolion lleol o ardal Pen-y-Bont, sydd wedi bod yn cymryd rhan mewn rhaglen ysgolion a drefnwyd gan Rygbi Triarddeg Cymru ac wedi derbyn hyfforddiant gan staff Rygbi Triarddeg Cymru a thîm rygbi triarddeg y Croesgadwyr Celtaidd.
8 Tachwedd 2009











