Dyma pedwerydd Ffair Ganoloesol Nadolig Caerffili sydd wedi ei drefnu gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth y Cynulliad, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Caerffili er mwyn sicrhau bod ymwelwyr i’r dref a’r castell yn cael profiad unigryw wrth brofi’r cyffro yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Mae digon o adloniant i’r ifanc a’r bobl hŷn yn y castell. Mae cyfle i greu crochenwaith yny Neuadd Fawr a mynd a’r gwaith gorffenedig adref gyda chi. Os yw oerfel y Gaeaf wedi eich llorio, beth am fynd i weld y Barbwr Llawfeddyg yn y babell fawr a chael cyngor ganddo ar sut i wella eich afiechydon – mewn ffordd ganoloesol!!
Cymerwch gyfle i wrando ar gerddoriaeth dymhorol, chwerthin ar gampau gwirion Digrifwas y Castell a chymrwch gip olwg dros fwyd, crefftau a nwyddau canoloesol y farchnad. Pam na wnewch gofrestru am yr ysgol gleddyfa Syr Andrew a hyfforddi i ornesta pencampwr Marchogion Cymdeithas Ganoloesol Harlech?
O gwmpas y gwersyll ganoloesol, mae cyfle i weld castio pewter, gwehyddu a choginio tymhorol. Yn ogystal â hyn mae Santa’n cymryd seibiant o’i daith fyd-eang i ymweld â’r castell dros y penwythnos – ac os eich bod wedi bod yn blant da fe fydd yn falch o’ch cyfarfod yn ei grotto yn un o dyrau y castell.
Neu os well genych eistedd yn ôl ac ymlacio - gallwch fwynhau hwyl y sioe bypedau cyn blasu’r bwyd tymhorol deniadol o farchnad y dref.
Mae pris mynediad i’r castell, gan gynnwys yr holl adloniant, fel a ganlyn: Oedolion £3.70, Consesiwn £3.30, Teulu £10.70.
10 Rhagfyr 2009











