Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lansio Strategaeth Digwyddiadau Mawr Cyntaf Cymru

Gyda llygaid y byd bellach ar Gymru wrth i gystadleuaeth Cwpan Ryder fynd yn ei blaen, heddiw fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones a’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones yn amlinellu'r ffordd ymlaen ar gyfer Cymru fel lleoliad digwyddiadau mawr, trwy lansio strategaeth Digwyddiadau Mawr, y cyntaf o’i bath ar gyfer Cymru.
Dydd Mercher 29 Medi 2010
Pixie Lott a Chris Moyles
Pixie Lott a Chris Moyles

Bydd y Strategaeth yn adeiladu ar y cyfleoedd sy’n codi o Gwpan Ryder, ac yn cyflwyno, am y tro cyntaf, ffordd o weithredu systematig a threfnus o gynnal mwy o ddigwyddiadau mawr yng Nghymru yn y dyfodol.  

Wrth lansio’r strategaeth, bydd y Dirprwy Brif Weinidog yn rhoi amlinelliad o’r llwyddiannau y mae Cymru wedi’u cael wrth gynnal digwyddiadau mawr, o Gwpan Rygbi’r Byd yn 1999 i lwyddiant Penwythnos Mawr Radio 1 yn Ystad y Faenol dros yr haf, yn ogystal â’n digwyddiadau sefydlog fel yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, Gŵyl y Gelli, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a’r Sioe Frenhinol.  

Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog:

“Bellach mae gennym sail gadarn ar gyfer adeiladu enw da Cymru mewn marchnad fyd-eang gystadleuol.  Rydym am weld mwy o fenter a thwf.  Mae ein Rhaglen Adnewyddu'r Economi yn llawn gydnabod pa mor bwysig yr ydym yn ystyried y Digwyddiadau Mawr, a rôl allweddol y diwydiannau creadigol yn ehangach.

“Mae’r strategaeth Digwyddiadau Mawr yma yn ganllaw i weithredu, fel bod Gymru gyfan yn cael budd o’r diwydiant digwyddiadau.  Mae cynnal Cwpan Ryder wedi dangos ein bod yn gallu herio traddodiadau hanesyddol sydd wedi dal Cymru yn ôl yn y gorffennol o bosib, ac mae Cymru bellach yn cynnal Cwpan Ryder ar ran cyfandir , ac wrth fynd yn ein blaenau fe fyddwn yn gweithio gyda ffederasiynau yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol er mwyn  cymryd mantais o’r potensial enfawr sydd ar gael mewn digwyddiadau chwaraeon eraill yn ogystal â digwyddiadau diwylliannol ac artistig.  

“Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar gefnogi pedwar math o ddigwyddiad;  Digwyddiadau Mawr, Digwyddiadau Unigryw, Mega Ddigwyddiadau a Digwyddiadau Twf, a bydd y rhain oll yn cael eu hasesu ar gyfer cefnogaeth yn unol ag Agenda Cymru’n Un Llywodraeth y Cynulliad.”

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones:

“Bydd y Strategaeth Digwyddiadau Mawr yn ein galluogi i ddatblygu portffolio cynaliadwy o ddigwyddiadau o safon byd-eang a fydd yn codi proffil ac enw da Cymru yn rhyngwladol, ac yn adlewyrchu ein diwylliant, ein traddodiadau a’n gwerthoedd.  Fel yr ydym eisoes wedi gweld gyda Chwpan Ryder a Phrawf y Lludw, gall digwyddiadau chwaraeon fod yn allweddol wrth hyrwyddo datblygiad chwaraeon, ac annog ffordd o fyw’n iachach trwy ymarfer corff rheolaidd.  Bydd yr Adran Digwyddiadau Mawr yn parhau i gydweithio gyda Chwaraeon Cymru a Chyrff Rheoli Cenedlaethol ar gyfer chwaraeon,  er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi blaenoriaeth i ddigwyddiadau sydd yn ychwanegu gwerth i’r gamp o dan sylw.”

Yn ystod y lansiad, bydd arbenigwyr o fyd twristiaeth, chwaraeon a diwylliant yn ymuno a’r Gweinidogion yn ogystal â’r rhai hynny sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniadau allweddol o ran dewis lleoliadau digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol.  Aelodau’r panel ar gyfer y sesiwn holi ac ateb fydd Iwan Trefor Jones,  Cyngor Gwynedd; Roger Lewis, Undeb Rygbi Cymru; Huw Jones, Chwaraeon Cymru; Paul Russell, Criced Morgannwg ; Dai Smith, Cyngor Celfyddydau Cymru a Fiona Stewart, Green Man.

Meddai Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Gwynedd, Iwan Trefor Jones,

“Mae Cyngor Gwynedd wedi rhoi pwyslais mawr ar ddenu digwyddiadau i’r ardal oherwydd  y budd economaidd uniongyrchol yn ogystal â’r cyfle i god proffil y sir fel lle da i fyw neu gynnal busnes.  Mae’n bwysig bod yr ardal yn cael ei phortreadu fel lle bywiog a chyffrous fel bod ein pobl ifanc am aros yn yr ardal a hefyd er mwyn denu ymwelwyr.  Mae gwaith ymchwil diweddar yn dangos bod y budd economaidd  uniongyrchol i Wynedd o gynnal digwyddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf oddeutu £10 miliwn.”

Dywedodd Paul Russell, Cadeirydd Criced Morgannwg:  

“Roedd llwyddiant Prawf y Lludw yng Nghaerdydd yn 2009 wedi derbyn clod gan bawb yn fyd-eang.  Mae wedi rhoi lle cadarn i Gymru fel lleoliad dilys ar gyfer Criced Rhyngwladol.  O nawr hyd at 2016, bydd Caerdydd yn llwyfannu mwy o Griced Rhyngwladol nac unrhyw ddinas arall yn y DU, ac eithrio Llundain, sydd â dau stadiwm ar gyfer Criced Prawf.  Yn bwysicach, mae’r digwyddiad wedi tanlinellu gallu Cymru i gynnal digwyddiadau chwaraeon byd-eang, ac atyniad dihafal Cymru fel lle gwyliau.”


Dywedodd Fiona Stewart, Rheolwr Gyfarwyddwr y Green Man,

"Fe ddilynodd Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth y Cynulliad drefniadau’r Green Man yn agos am oddeutu 18 mis er mwyn gwerthuso’r Ŵyl.  Roeddent yn sylweddoli bod yr ŵyl yn dod ag incwm ac ymwelwyr i’r ardal, roeddent hefyd yn gwerthfawrogi rhaglenni sydd gennym i gefnogi elusennau a phrosiectau rhanbarthol, ac yn teimlo bod brand yr ŵyl o fudd i Gymru.  

“Er mwyn cydnabod y llwyddiant yma, maent yn cefnogi prosiectau i godi proffil Cymru yn rhyngwladol, annog twristiaeth a rhoi budd pellach i’r celfyddydau yng Nghymru a’r diwydiannau creadigol.  Trwy ddefnyddio arian y Llywodraeth, rydym bellach yn gallu sefydlu adain elusennol annibynnol o’r Green Man.  Bydd hyn yn ein galluogi i sianelu elw o’r ŵyl  er mwyn denu rhagor o nawdd, i gadarnhau prosiectau sydd eisoes ar y gweill a datblygu rhai newydd.  Rydym yn ddiolchgar iawn bod Llywodraeth y Cynulliad yn flaengar wrth gefnogi llwyddiant y diwydiannu creadigol, ac rydym yn credu y bydd gan hyn ganlyniadau positif a phell-gyrhaeddol i Gymru a’r Green Man.

Mae’r digwyddiadau sydd wedi derbyn cefnogaeth dros y blynyddoedd nesaf yn cynnwys cystadleuaeth Ironman yn Sir Benfro, sydd yn digwydd fis Medi 2011, 2012 a 2013.  Bydd yn rhoi hwb enfawr i'r diwydiant twristiaeth yn lleol, ac yn rhoi llwyfan i hybu ffordd o fyw iachus.  Yn 2011 bydd Rownd Derfynol Cwpan Heineken Rygbi’r Undeb a ‘Phenwythnos Hud’ Rygbi'r Gynghrair yn derbyn cefnogaeth, ac yn cael eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm. Mewn achlysur hanesyddol arall i Gymru, bydd Pêl-droed Olympaidd yn cael ei chwarae yn y stadiwm am y tro cyntaf yn 2012.  Mae yna hefyd uchelgais i lwyfannu Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd yn 2013 a Gêm Derfynol Cynghrair UEFA.  Yn ogystal â digwyddiadau chwaraeon, bydd Adran Digwyddiadau Mawr Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi digwyddiadau diwylliannol amrywiol fel Gŵyl Wakestock yn Abersoch ac Ysbryd Llangollen.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Penwythnos Mawr BBC Radio 1 yn dod i Fangor Digwyddiad newydd i lledaenu Naws Llangollen

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 29 Medi 2010 Cwpan Ryder 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i