Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gweinidog dros Dreftadaeth yn llongyfarch Tîm Cymru

Wrth i seremoni gael ei chynnal i nodi diwedd Gêmau'r Gymanwlad yn Delhi, mae'r Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones wedi llongyfarch pob cystadleuydd o Gymru am eu hymdrechion ac ar y nifer ardderchog o fedalau a enillwyd.
Dydd Iau 14 Hydref 2010
Dai Greene a Rhys Williams gyda'i medalau aur ac efydd o ras glwydi 400 metr
Dai Greene a Rhys Williams gyda'i medalau aur ac efydd o ras glwydi 400 metr

"Yng Ngêmau'r Gymanwlad mae ein mabolgampwyr wedi gweld penllanw blynyddoedd o waith caled ac mae'r wlad gyfan wedi ymfalchio yn eu perfformiadau," meddai.

"Hoffwn longyfarch pob un o'n mabolgampwyr a staff cymorth ar ennill cynifer o fedalau a gwneud eu gorau glas wrth gynrychioli Cymru. Rwy'n arbennig o falch o weld bod llawer o'n mabolgampwyr ifanc wedi ennill medalau gan fod hyn yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol a'n bod wedi bod yn llwyddiannus mewn gwahanol fathau o fabolgampau.

"Mae'r gêmau hyn yn bwysig iawn i Gymru gan mai dyna'r unig gyfle i'n mabolgampwyr gynrychioli'n gwlad mewn digwyddiad chwaraeon amrywiol.

"Edrychaf ymlaen at gwrdd â'r tîm y mis nesaf ac i ddiolch nhw am eu hymdrechion."

Ychwanegodd:

"Yn gynharach eleni cyhoeddodd Chwaraeon Cymru ei strategaeth ar gyfer chwaraeon elitaidd yng Nghymru sy'n cynnwys rhai targedau uchelgeisiol. Mae'r perfformiad yn Delhi yn fan cychwyn cadarn i adeiladu arno. Rwy'n edrych ymlaen at ddathlu rhagor o lwyddiannau Cymru dros y blynyddoedd i ddod, gan gynnwys yng Ngêmau'r Gymanwlad yng Nglasgow yn 2014."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

250,000 o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr wedi'u dewis dros Gymru

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 14 Hydref 2010 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2012
Ll M M I G S S
<< Mai   Gor >>
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28 29 30  
I'n dilyn ni trowch i