Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Parhau i Fuddsoddi yn nhreftadaeth ddiwylliannol Cymru

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y Gyllideb Ddrafft yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd Alun Ffred Jones y bydd yn parhau i fuddsoddi yn niwylliant, celfyddydau, yr iaith Gymraeg a chwaraeon Cymru.
Dydd Gwener 19 Tachwedd 2010
Mae'r Gwinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i fuddsoddi yn niwylliant, celfyddydau, yr iaith Gymraeg a chwaraeon Cymru.
Mae'r Gwinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones wedi cyhoeddi y bydd yn parhau i fuddsoddi yn niwylliant, celfyddydau, yr iaith Gymraeg a chwaraeon Cymru.

O ganlyniad i doriadau i gyllideb Cymru gan lywodraeth Prydain, bydd cyllideb refeniw y portffolio Treftadaeth yn gweld gostyngiad o 3.15% dros y 3 blynedd nesaf, a’r gyllideb cyfalaf yn lleihau 33.9% dros 3 blynedd.  

I gydnabod y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan yr holl sefydliadau y mae’r gyllideb Dreftadaeth yn eu cynorthwyo, ac yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen, bydd effaith y toriadau i’r gyllideb yn cael eu lledaenu ar draws yr ystod o sefydliadau sy’n derbyn cymorth.  

Wrth gynnig sylwadau ar sut y bydd y setliad yn cael effaith ar ei bortffolio, dywedodd y Gweinidog:

“Mae gan bob un o’r rhaglenni gwariant sy’n cael cymorth gan y gyllideb Dreftadaeth gyfraniad mawr i’w wneud i bolisi Llywodraeth y Cynulliad o hyrwyddo ein treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol.  Byddwn, felly, yn parhau i roi cymorth ariannol i Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Chwaraeon Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor Llyfrau Cymru, CADW a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.  Bydd angen i bob un o’r sefydliadau hyn wneud rhagor o arbedion effeithlonrwydd dros y cyfnod gwario, ond mae’r cyllid wedi’i flaenoriaethu i amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.  

“Trwy gydol y setliad hwn ar gyfer y gyllideb ddrafft, bu’r prif bwyslais ar amddiffyn gwasanaethau rheng flaen, tra’n gosod targedau effeithlonrwydd i wasanaethau gweinyddu a gwasanaethau cymorth.  Bydd yr arbedion hyn mewn gweinyddu, gweithio cydgysylltiedig a gwasanaethau ar y cyd yn ychwanegol i’r rhai gafodd eu gwneud o dan y fenter ‘Creu’r Cysylltiadau’ dros y blynyddoedd diwethaf.    

“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi pwysleisio pwysigrwydd cael sefydliadau diwylliannol i ddatblygu ymatebion creadigol i’r heriau sy’n cael eu hwynebu o ganlyniad i’r lleihad mewn cyllidebau.  Mae’n rhaid i’r atebion hyn gynnwys datblygu partneriaethau newydd creadigol, sy’n anelu at wneud y mwyaf o bob punt o wariant cyhoeddus ar dreftadaeth, yn ogystal â rhannu swyddogaethau gweinyddol i gael rhagor o arbedion effeithlonrwydd

“Mae’r flaenoriaeth gymharol sy’n cael ei rhoi i ariannu’r celfyddydau yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall cyrff celfyddydol ei wneud i ansawdd bywyd pobl.  Gall y cyfraniad hwn fod yn fwy gwerthfawr fyth yn ystod cyfnod o galedi.”    

Mae cynnydd yng nghyllid Cronfa Cymru Ddwyieithog er mwyn cynorthwyo â’r broses o sefydlu Comisiynydd Iaith Gymraeg a gweithredu Strategaeth Iaith Gymraeg y llywodraeth.  Mae parhad yng nghyllid prosiect Cyngor Llyfrau Cymru hefyd, sy’n anelu at wella cystadleurwydd economaidd y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru.  

Mae bwriad hefyd i gynyddu cyllid Casgliad y Werin, yr amgueddfa rithiol o hanes y bobl ar gyfer Cymru gyfan, gan gydnabod ei phwysigrwydd strategol fel ymrwymiad Cymru’n Un.  Bydd y cyllid sydd wedi’i ddarparu i Amgueddfa Cymru hefyd yn sicrhau bod polisi poblogaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru o fynediad am ddim i safleoedd yr amgueddfa genedlaethol yn parhau.  Ar ben hyn, mae £5 miliwn ychwanegol o gyllid cyfalaf wedi’i ddyrannu hyd yma i gynorthwyo gyda’r gwaith o ailddatblygu Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, gan gydnabod pwysigrwydd strategol y safle i dwristiaeth ddiwylliannol trwy arddangos atyniadau treftadaeth a hanesyddol ledled Cymru.  

Bydd y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan Cadw i gynnal a gofalu am adeiladau hanesyddol a rhestredig Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae ei gyllidebau wedi’u diogelu i ryw raddau er mwyn sicrhau hyn.  Mae’r gwaith o ddatblygu gweithrediadau Cadw ar y gweill hefyd, i gynnal mwy o weithgareddau masnachol, ac i roi’r hyblygrwydd y mae ei angen i gyflawni ei strategaeth creu incwm.  

O fewn y cyllid sy’n cael ei roi i Chwaraeon Cymru, ni fydd newid i’r gyllideb nofio am ddim.  Bydd y cymorth yn parhau i raglenni gweithgarwch corfforol trwy Gynlluniau Gweithredu Gweithgarwch Corfforol Awdurdodau Lleol, gan gynnwys y cynllun 5x60 sydd bellach wedi dechrau ym mhob ysgol uwchradd.   Bydd Chwaraeon Cymru hefyd yn parhau i gynnig cymorth i chwaraeon elitaidd, gan gynnwys trwy gyrff llywodraethu cenedlaethol.  

Bydd y diwydiant twristaidd, sy’n cyfrannu oddeutu £4 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, yn parhau yn flaenoriaeth allweddol, ac mae gan Lywodraeth y Cynulliad uchelgais o gael yr economi ymwelwyr i dyfu, i gymryd mantais o asedau naturiol, treftadaeth a diwylliannol neilltuol Cymru.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Diwylliant a chwaraeon

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 19 Tachwedd 2010 Cyllideb Yr Iaith Gymraeg Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i