Siaradodd Karen Gibbins, Cadeirydd CILIP – Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Cymru – yn y digwyddiad arbennig, Caru Eich Llyfrgelloedd, a gynhaliwyd yn y Senedd, Bae Caerdydd. Meddai hi:
"Roedd y digwyddiad ‘Caru eich Llyfrgelloedd’ yn gyfle gwych i ddod ynghyd gyda Sefydliad y Merched a phobl eraill sy’n sylweddoli pa mor bwysig yw ein bod yn cefnogi llyfrgelloedd yng Nghymru ac yn codi proffil Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd ar 4 Chwefror. Roedd y gefnogaeth a ddangoswyd gan y Gweinidog, Huw Lewis AC, ac Aelodau eraill o Lywodraeth Cymru, yn galonogol iawn.”
Meddai Huw Lewis:
“Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan. Maen nhw’n ysbrydoli ein plant i ddarllen, yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau cyfrifiadurol, ac yn darparu digwyddiadau cymunedol ar gyfer y teulu i gyd. Mae ein strategaeth ‘Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli’ yn amlinellu sut y byddwn yn parhau i gefnogi llyfrgelloedd yng Nghymru, yn cynnwys moderneiddio adeiladau, helpu i ddatblygu gwasanaethau newydd megis e-lyfrau, a chynyddu’r cyfleoedd ar gyfer dysgu, e.e. mynd ar-lein am y tro cyntaf."
Siaradodd Margaret Lloyd Jones, Cadeirydd Sefydliad y Merched Cymru, hefyd am eu hymgyrch ‘Caru eich Llyfrgelloedd’ – sy’n tanlinellu’r angen i ddiogelu, gwerthfawrogi a defnyddio llyfrgelloedd lleol. Meddai hi:
“Mae Sefydliad y Merched wedi trefnu’r digwyddiad heddiw er mwyn atgyfnerthu’r rôl bwysig mae llyfrgelloedd yn ei chwarae yn ein cymunedau lleol, ac i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd ddydd Sadwrn 4 Chwefror. Fel mudiad addysgol, mae aelodau Sefydliad y Merched yn sylweddoli gwerth gwasanaethau llyfrgell i gymunedau, llawer ohonynt mewn ardaloedd gwledig, ac yn credu ei bod yn holl bwysig ein bod yn cefnogi llyfrgelloedd i’r carn.”
Nod Diwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd, a gynhelir ddydd Sadwrn 4 Chwefror, yw dathlu llyfrgelloedd o bob math ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol.
Anogir defnyddwyr llyfrgell, hen a newydd, i alw heibio eu llyfrgell leol i ddysgu am yr holl bethau gwych sydd ar gael yno – o fenthyca llyfrau a chlybiau gwaith cartref i gyngor ar sefydlu busnes a sut i fynd ar-lein. Gofynnir i ddefnyddwyr cyson ddod â ffrind hefyd, gan roi cyfle iddynt sgwrsio â staff y llyfrgell a gweld pa wasanaethau sydd ar gael yn lleol.
Mae’r diwrnod yn cydnabod y gwaith a wneir mewn llyfrgelloedd cyhoeddus, a llyfrgelloedd mewn ysgolion, colegau, prifysgolion ac yn y gweithle, i hyrwyddo dysgu, llythrennedd a’r mwynhad a geir o ddarllen. Cefnogir gan bump ar hugain o sefydliadau, yn cynnwys CILIP, y Reading Agency, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, ymgyrchwyr dros lyfrgelloedd, a chyhoeddwyr.











