Bydd cynrychiolwyr o bob rhan o’r sector yn dod ynghyd i ystyried cyd-destun y ddeddfwriaeth a’r newid yn y dyfodol o ran amgylchedd hanesyddol Cymru.
Caiff y gweithdai eu cynnal gan Cadw, sef gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, a chaiff gweithdy heddiw ei agor gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis.
Dywedodd Huw Lewis:
“Cyhoeddais yr wythnos ddiwethaf fy ngweledigaeth ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Mae fy mlaenoriaethau’n cynnwys cyflwyno cofrestr o feysydd brwydr, gwarchod safleoedd sydd dan ofal y wlad ac annog dewis ehangach o bobl i ymweld â’n hasedau hanesyddol. Eto i gyd, bydd y Bil yn cwmpasu llawer iawn mwy na hyn.
“Gall arbenigwyr a’r rhai sydd â diddordeb yn ein hamgylchedd hanesyddol wneud cyfraniad pwysig. Mae llawer eisoes yn gweithio yn y maes, yn meddu ar wybodaeth am y maes ac maent wedi cael profiad uniongyrchol o’r hyn sy’n gweithio a pha fesurau y mae angen eu gwella.
“Bydd eu cynnwys ar ddechrau’r broses yn helpu i sicrhau bod y Bil yn dilyn y trywydd cywir, o’r camau cychwynnol hyn i’r broses o’i gyflwyno yn nes ymlaen yn nhymor y Cynulliad hwn.”
Bwriedir cyflwyno’r Bil Treftadaeth yn 2014-2015.











