Gan edrych ymlaen at yr ymweliad dyma oedd gan y Gweinidog i’w ddweud:
“Mae timau ar gyfer amryw o wahanol gampau ar gyfer y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd o 19 gwlad wedi dewis sefydlu eu gwersyll hyfforddi yma yng Nghymru. Mae hyn yn brawf o’r cyfleusterau chwaraeon penigamp sydd ar gael yng Nghymru gyda thimau yn dewis safleoedd yn y Gogledd a’r De fel ei gilydd – yn Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd.
"Mae cwmnïau o Gymru hefyd wedi elwa ar gontractau gwerth dros £38 miliwn yn gysylltiedig â’r Gemau Olympaidd tra bo’r medalau a’r darnau arian sydd wedi’u bathu i ddathlu’r achlysur yn ddolen gyswllt arall â Chymru gan eu bod yn cael eu cynhyrchu yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.
“Mae pobl ysbrydoledig ledled Cymru wedi cael cynnig cyfle euraid i gludo’r fflam Olympaidd. Dyma fydd eu cyfle i ddisgleirio. Gyda’r cyfryngau a’r cwmnïau darlledu yn dilyn y fflam Olympaidd ar ei thaith, caiff pobl ym mhob cwr o’r byd gipolwg ar ein cymunedau yma yng Nghymru wrth iddi fynd drwy ein trefi a heibio ein hadeiladau a’n safleoedd hanesyddol ym mis Mail."
Mae plant a phobl ifanc hefyd yn cefnogi’r Gemau wrth i 956 o ysgolion ymuno â’r Rhaglen Bydd Barod. Mae’r deunyddiau addysgu ar-lein yn cynnig awgrymiadau a gwybodaeth am sut i gynnwys pobl ifanc er mwyn iddynt elwa ar waddol Llundain 2012 yn ddiwylliannol yn ogystal ag ym maes chwaraeon. Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys cardiau ryseitiau a ffeiliau ffeithiau am y gwledydd sy’n cystadlu, gweithgareddau chwaraeon a chyngor ar sut i feithrin gwerthoedd Olympaidd megis penderfyniad a gwaith tîm. Mae nifer o ysgolion o Gymru sy’n rhan o’r rhwydwaith Bydd Barod hefyd yn gymwys i gael tocynnau i fynd i’r Gemau.
Gall pobl ifanc hefyd ymuno yn hwyl y cystadlu drwy Gemau Cymru. Dyma raglen gan yr Urdd sy’n cwmpasu nifer o gampau ac sy’n cynnig i athletwyr ifanc talentog y cyfle i gystadlu ar lefel genedlaethol mewn nifer o ddigwyddiadau sydd wedi’u hysbrydoli gan y Gemau Olympaidd.
Yn y cyfamser, mae Olympiad Diwylliannol Cymru, Grym y Fflam, yn annog pobl i fod yn greadigol ac yn arloesol drwy brosiectau celfyddydol a diwylliannol sydd wedi’u hysbrydoli eto gan y Gemau Olympaidd. Mae Grym y Fflam yn cynnig i bobl ifanc Cymru y cyfle i fod yn rhan o brosiectau megis adrodd stori hanesyddol, celfyddydau perfformio ac arddangosfeydd.











