Bydd cynrychiolwyr o’r sector treftadaeth yn cwrdd i ystyried y cyd-destun ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a sut y gall hyn ddylanwadu ar y broses o lunio polisi yn y dyfodol wrth i’r gwaith barhau ar y Bil Treftadaeth sydd ar y gweill.
Cadw, sef gwasanaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, sy’n gyfrifol am redeg y gweithdy a fydd yn cael ei gynnal yn swyddfa Rhodfa Padarn Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth.
Daeth dros 30 o bobl ynghyd ar gyfer y gweithdy cyntaf ym Mae Caerdydd ar 2 Chwefror. Gofynnwyd i bawb a gymerodd ran ystyried sut y byddai pethau’n edrych ymhen blynyddoedd a sut y gallai hyn effeithio ar y ffordd yr awn ati i werthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol, ei warchod ac i sicrhau y cawn fudd ohono.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis:
“Mae ymgynghori’n hollbwysig i sicrhau bod ein polisïau yn addas i’r diben. Mae’r gweithdai hyn yn ffordd ddefnyddiol o gysylltu’n uniongyrchol â’r bobl hynny sydd â budd o safbwynt arbenigol neu bersonol yn y sector treftadaeth.
“Bu’r trafod yn frwd yn sgil y gweithdy cyntaf felly edrychaf ymlaen at glywed am hanes yr ail weithdy hwn.”
Caiff y trydydd gweithdy ei gynnal yn Llandudno ar 26 Mawrth. Y bwriad yw cyflwyno’r Bil Treftadaeth yn 2014-2015.











