Cafodd y Gweinidog gwmni tua 60 o ddisgyblion o Ysgol y Castell, Rhuddlan, a oedd wedi dod yno i ganu caneuon ac i ddawnsio gwerin.
Yn gynharach yn ystod y dydd, ymwelodd y Gweinidog â’r Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, sydd wedi cael ei brynu i’r genedl gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Dywedodd y Gweinidog:
“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle i bawb yng Nghymru ddathlu ein treftadaeth gyfoethog ac amrywiol. Mae gwylio’r plant ifanc talentog hyn yn mwynhau canu caneuon Cymraeg a dawnsio gwerin ar y safle hanesyddol hwn yn dangos bod ein treftadaeth ni’n dal i gael ei gwerthfawrogi heddiw.
“Hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb yng Nghymru, a phob un dramor sydd â chysylltiad â Chymru.”
Cafodd y Gweinidog gyfle hefyd i atgoffa pob un bod mynediad am ddim i holl safleoedd Cadw ar Ddydd Gŵyl Dewi.











