Caiff yr adeilad ei gydnabod fel un o’r archifau gorau yn y DU sydd dan ofal awdurdod lleol. Mae’n gartref i wasanaeth archifau lleol Dinas a Sir Caerdydd, Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a ariennir gan y chwe awdurdod lleol.
Mae cyfleusterau’r ganolfan, a agorodd i’r cyhoedd ym mis Chwefror 2010, yn cynnwys ystafell chwilio lle y gall y cyhoedd edrych ar ddogfennau archifol gwreiddiol, cyfleusterau cyfrifiadurol ar gyfer y cyhoedd ac ystafelloedd cyfarfod sydd ar gael i’w defnyddio gan y gymuned leol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn croesawu’n rheolaidd grwpiau o ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd a myfyrwyr addysg uwch, mae’n trefnu gweithdai ar gyfer y cyhoedd fel y gallant ymchwilio i hanes eu teulu ac mae’n cefnogi prosiectau archifol cymunedol.
Dywedodd y Gweinidog:
"Mae canolfan newydd Archifau Morgannwg wedi creu cryn argraff arnaf. Mae’n enghraifft berffaith o’r modd y gall awdurdodau lleol gydweithio er mwyn cynnig gwasanaeth rhagorol i bobl leol a hefyd ymwelwyr fel y gallant olrhain hanes eu teulu. Mae’n arbennig o galonogol i weld plant ysgol a’r gymuned leol yn cymryd rhan mewn prosiectau a sefydlwyd gan y ganolfan ac yn dysgu rhagor am hanes eu hardal leol."
Mae’r adeilad hefyd yn cynnig cyfleusterau storio o’r radd flaenaf sy’n bodloni’r safonau a argymhellir ar gyfer storio archifau ac sy’n gartref i gasgliadau archifau helaeth sy’n ymwneud â phob agwedd ar fywyd ym Morgannwg o’r ddeuddegfed ganrif hyd heddiw. Mae’r stiwdio gwarchod fwy hefyd yn ei gwneud hi’n bosibl i wneud gweithgareddau diogelu a gwarchod amrywiol iawn.











