Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog Treftadaeth yn croesawu gwybodaeth am daith y Fflam Olympaidd drwy Gymru.

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Treftadaeth wedi croesawu'r cyhoeddiad am lwybr y Fflam Olympaidd drwy Gymru ac enwau'r bobl ysbrydoledig fydd yn cludo'r fflam.
Dydd Llun 19 Mawrth 2012

Gellir gweld y manylion llawn am lwybr Taith Gyfnewid Fflam Olympaidd Llundain 2012 yn www.london2012.com/olympictorchrelay. Ar y wefan mae manylion pob stryd ac amser taith y Fflam Olympaidd drwy'r ardal. Gall pob sy'n byw ar hyd y llwybr wybod pryd fydd yn teithio ar hyd eu stryd fawr, neu drwy sgwâr y dref neu heibio'u siop bentref leol.

Mae'r bobl hynny sydd wedi cael cadarnhad heddiw y byddant yn cario'r Fflam yn cynnwys y rheini a fu'n llwyddiannus yn y prosesau enwebu cyhoeddus a drefnwyd gan Bwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd a'r partneriaid Cyflwyno,  Coca Cola, Lloyds TSB a Samsung. Mae Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi gwneud eu gorau i roi cyfle i bob un sy'n cario'r Fflam fedru gwneud hynny o fewn awr i'w cartref, fel y gall eu teulu a'u ffrindiau eu hannog ymlaen. Bydd pob Cludwr y Fflam mewn gwisg aur a gwyn sydd wedi'i chynllunio gan Adidas.

Yn ôl y Gweinidog:

"Mae Cymru mewn sefyllfa dda i gynnig siwrnai gyffrous i'r fflam, fel y dengys y mapiau o'r strydoedd. Mae llawer o'r rhai sydd wedi'u dewis heddiw'n bobl ifanc sydd â storïau ysbrydoledig i'w hadrodd, a bydd y daith gyfnewid yn gyfle gwych iddyn nhw ddangos i'r byd y pethau hynny sy'n gwneud Cymru'n unigryw. Byddan nhw'n teithio ar gobyn yng Ngheredigion ac ar gwch ar gamlas Llangollen ac yn mynd drwy adeiladau hen a newydd fel Castell Caerffili a Stadiwm y Mileniwm.  Mae'n argoeli i fod yn wythnos gyffrous iawn i'r daith gyfnewid ac i bob un sy'n rhan ohoni."

Yn ôl Sebastian Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd LOCOG:

"Heddiw rydyn ni'n dod â Thaith Gyfnewid y Fflam Olympaidd yn fyw. Mae'r Fflam yn symbol o ysbryd y gemau Olympaidd a bydd ei thaith o amgylch y DU yn dod â chyffro'r Gemau i'n strydoedd. Erbyn hyn mae pobl yn gwybod ble fydd y Fflam Olympaidd yn mynd a phwy fydd Cludwyr y Fflam yn eu cymuned, a gallan nhw ddechrau cynllunio sut allan nhw'n dathlu a gwneud yn fawr o'r foment."

Bydd cyfartaledd o 115 o Gludwyr y dydd yn cario'r Fflam Olympaidd ar y daith o 8,000 o filltiroedd o gwmpas y DU cyn iddi gyrraedd y Stadiwm Olympaidd ar 27 Gorffennaf 2012 ar gyfer cynnau'r pair yn y Seremoni Agoriadol, i ddynodi bod Gemau Olympaidd Llundain 2012 wedi dechrau'n swyddogol.

Mae Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd wedi gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr nifer o sectorau ym mhob un o Wledydd a Rhanbarthau'r DU i lunio'r llwybr ac mae'n mynd â'r Fflam Olympaidd o fewn deng milltir i dros 95% o'r boblogaeth.

Gall ysgolion ledled y DU gael gafael ar adnoddau dysgu am ddim sy'n gysylltiedig â Thaith Gyfnewid y Fflam Olympaidd drwy Get Set (london2012.com/getset), rhaglen addysg swyddogol Llundain 2012. Lluniwyd y gweithgareddau i helpu ysgolion a cholegau wneud yn fawr o'r Daith Gyfnewid drwy sefyll ar ochr y ffordd i annog eu Cludwyr lleol ymlaen. Rhai o'r adnoddau yw syniadau i wneud hetiau a siglwyr i groesawu'r Fflam, cyflwyniad ar gyfer gwasanaeth i annog yr ysgol i gefnogi'r Cludwyr a ffilm yn dangos paratoadau ysgol sy'n rhan o'r rhwydwaith Get Set ar gyfer y Daith Gyfnewid.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gemau 2012

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 19 Mawrth 2012 Gemau olympaidd 2012 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i