Cyfarfu cynrychiolwyr o blith y sector treftadaeth i ystyried y cyd-destun ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol a sut y gallai hyn ddylanwadu ar y broses o lunio polisi yn y dyfodol wrth i ddatblygiadau ar gyfer y Bil Treftadaeth sydd ar y gweill barhau.
Trefnwyd y digwyddiad gan Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno.
Daeth dros 60 o bobl ynghyd yn y ddau weithdy blaenorol a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd ar 2 Chwefror ac Aberystwyth ar 2 Mawrth. Gofynnwyd i bawb a gymerodd ran ystyried pa fath o fyd fydd gennym yn y dyfodol a sut y gallai hyn effeithio ar y ffordd rydym yn gwerthfawrogi ac yn diogelu’r amgylchedd hanesyddol a hefyd y budd a gawn ohono.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis,
“Cafodd y gweithdai hyn eu sefydlu yn benodol i drafod amgylchedd hanesyddol Cymru ac i ystyried beth sydd angen ei wneud yng Nghymru i ddatblygu a diogelu ei dyfodol.
“Mae arbenigwyr a’r rheini sydd â diddordeb personol yn y pwnc wedi dod ynghyd o bob cwr o Gymru i ystyried y problemau a’r cyfleoedd. Edrychaf ymlaen at ystyried yr hyn a drafodwyd er mwyn gweld sut y gallant helpu i ddatblygu’r Bil Treftadaeth.”
Y bwriad yw bod y Bil Treftadaeth yn cael ei gyflwyno yn 2014-2015.











