Cynhelir arddangosfa Dilyn y Fflam yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yng Nghanolfan Celfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd tan 16 Mehefin. Mae’n adrodd hanes diddorol yr athletwyr o Gymru sydd wedi cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd ers i’r gemau modern cyntaf gael eu cynnal ym 1896, a hefyd ers y Gemau Paralympaidd cyntaf ym 1948 – sef y tro diwethaf i’r Gemau gael eu cynnal yn Llundain.
Mae’r arddangosfa eisoes wedi ymweld ag Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd, Llandudno a Chaergybi, a bydd yn Wrecsam rhwng 27 Mehefin a 15 Medi. Mae’n rhan o’r Olympiad Diwylliannol, sef rhaglen ehangach o ddigwyddiadau diwylliannol a gynhelir ledled Cymru i nodi Gemau Olympaidd Llundain.
Mae’n dathlu campau athletwyr enwog fel y nofiwr a chwaraewr polo dŵr a anwyd yng Nghaerdydd, Paulo Radmilovic, a enillodd bedair medal aur rhwng 1908 a 1920; Lynn ‘the Leap’ Davies; y neidiwr ceffylau David Broome a’r Fonesig Tanni Grey Thompson, athletwraig Baralympaidd fwyaf llwyddiannus Prydain, yn ogystal ag athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd mwy diweddar Cymru, fel Nicole Cooke, Geraint Thomas, Tom James, Simon Richardson a Dave Roberts, pob un ohonynt wedi ennill medalau yn Beijing. Mae’r gwahanol leoliadau yn rhoi lle blaenllaw i waith celf gan blant lleol sy’n portreadu eu harwyr.
Hefyd yn yr arddangosfa, mae ffilm a miwsig dramatig sydd wedi’u cynhyrchu’n arbennig ar ei chyfer, ac sy’n rhedeg yn ddi-dor; fideo o gyfweliadau â thros 70 o athletwyr; lluniau o athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd o Gymru, a chasgliad gwych o bethau i goffáu eu llwyddiant, gan gynnwys cadair rasio Tanni Grey-Thompson, ffagl Olympaidd, medalau aur, arian ac efydd Olympaidd a Pharalympaidd, mwg a gynhyrchwyd gan Grochendy Ewenni i ddathlu campau Lynn Davies ym 1964, a siwt nofio Irene Steer, y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal.











