Gorsafoedd bach, di-elw yw gorsafoedd radio cymunedol er budd y cyhoedd neu gymunedau penodol, ac er mantais gymdeithasol.
Dewiswyd wyth gorsaf radio gymunedol am eu hymrwymiad i’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu. Fe gawson nhw eu hasesu mewn nifer o feysydd: hyrwyddo hyfforddiant a menter gymdeithasol ar gyfer pobl sydd dan anfantais ac sy’n agored i niwed, hybu dulliau iach o fyw, a chryfhau hunaniaeth ddiwylliannol a ieithyddol.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,
“Dwi’n falch ein bod ni’n gallu cefnogi’r gorsafoedd radio hyn sy’n chwarae rôl hollbwysig. Maen nhw’n trafod y materion sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yn eu cymunedau. Maen nhw hefyd yn creu cyfleoedd iddyn nhw feithrin sgiliau newydd, a chael gwaith mewn rhai achosion. Mae llawer yn gwneud gwaith da o ran hyrwyddo ffyrdd iach o fyw, y Gymraeg a menter gymdeithasol. Fe hoffwn i hefyd longyfarch yn bersonol y rheini sy’n gwneud gwaith mor wych o ofalu bod y gorsafoedd hyn yn parhau i ffynnu a diddanu.”
Dyma’r wyth gorsaf radio a gafodd grantiau:
- bydd GTFM ym Mhontypridd yn derbyn £16,000
- bydd BRFM ym Mlaenau Gwent yn derbyn £16,500
- bydd Tudno FM yn Llandudno yn derbyn £13,400
- bydd Point FM yn y Rhyl yn derbyn £10,000
- bydd Calon FM yn Wrecsam yn derbyn £18,000
- bydd Radio Cardiff yn derbyn £5,500
- bydd Tircoed yn derbyn £5,500
- bydd Bro Radio ym Mro Morgannwg yn derbyn £15,000.











