Wrth siarad adeg lansio Strategaeth Gymunedol Chwaraeon Cymru, sydd â’r nod o gynyddu nifer yr aelodau o’r gymuned sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, dywedodd y Gweinidog ei fod yn gobeithio mai gwaddol ‘go iawn’ gemau Llundain fyddai cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Chwaraeon,
“Pan fyddwch yn ymwneud â digwyddiad o’r maint hwn mae’n anochel y bydd yna gryn dipyn o rethreg a phan fydd unrhyw gemau mawr yn cael eu crybwyll mae llawer o sôn am eu ‘gwaddol’.
“Ond yr hyn sy’n fy mhoeni i yw bod y gwaith caled y mae cymaint o bobl wedi’i wneud cyn y gemau i wella cyfleusterau, seilwaith ac agweddau tuag at chwaraeon yn y wlad hon, yn arwain at newid gweladwy, go iawn mewn diwylliant pan ddaw cyffro’r gemau i ben.
“Mae Cymru yn wlad sy’n hoff o chwaraeon ac yn falch iawn o’i threftadaeth yn y byd chwaraeon a’r llwyddiannau lu a ddaeth i’w rhan yn y byd hwnnw. Mae pawb yn ymwybodol bod chwaraeon yn ddylanwad mawr ar bobl ifanc a bydd cael athletwyr byd enwog yn hyfforddi ar garreg eu drws ac yn byw yn eu cymunedau yn rhoi llawer o ysbrydoliaeth iddynt.
“Rydym eisoes yn edrych y tu hwnt i Gemau 2012 i arddangos y cyfleusterau chwaraeon gwych sydd gennym yng Nghymru. Gan fod Gemau’r Gymanwlad 2014 yn cael eu cynnal yn Glasgow, mae Llywodraeth Cymru yn targedu gwledydd y Gymanwlad gyda’r bwriad o ddatblygu perthynas hirdymor gyda nhw. Rydym yn gobeithio y bydd nifer o wledydd yn dychwelyd i Gymru cyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow ac yn ystyried Cymru fel canolfan o ragoriaeth yn y maes chwaraeon.”
Ymunodd y Gweinidog â’r Athro Laura McAllister, cadeirydd Chwaraeon Cymru wrth lansio eu strategaeth gymunedol, a gyhoeddodd eu bod am fuddsoddi £9miliwn arall o gyllid y Loteri Genedlaethol mewn chwaraeon cymunedol dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi cyfanswm o bron i £32m y flwyddyn i chwaraeon cymunedol yng Nghymru.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Chwaraeon,
“Dylai pob person ifanc gael y cyfle i ddisgleirio a chyfrannu mewn modd cadarnhaol i’w cymunedau, waeth beth fo’i amgylchiadau. Gall chwaraeon chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ifanc a theuluoedd i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a’u goresgyn a cheisio cael dyfodol gwell. Rwy’n hynod obeithiol y bydd y strategaeth hon yn chwarae ei rhan wrth helpu i leihau ac atal tlodi drwy leihau rhwystrau ac anghydraddoldeb.”











