Ymunodd nifer o bwysigion a sêr y byd chwaraeon â Huw Lewis y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn ogystal â’r goreuon o fyd diwylliannol Cymru i lansio rhaglen lawn Gŵyl Llundain 2012 yng Nghymru.
Meddai Mr Lewis,
“Gan bod y Gemau Olympaidd bellach ar fin digwydd, mae’r diddordeb a’r brwdfrydedd yn cynyddu, yn enwedig yma yng Nghymru, ble y byddwn yn cynnal gemau pêl droed, a ble y bydd nifer o athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn paratoi ar gyfer y Gemau. Bydd y Cylchoedd Olympaidd yng Nghaerdydd a Gŵyl Llundain 2012 yng Nghymru, gyda’i ddigwyddiadau ledled y wlad, yn dod â blas o’r Gemau i Gymru ac yn helpu i gynnwys y genedl gyfan yn Llundain 2012.”
Meddai Seb Coe, Cadeirydd Pwyllgor Trefnu Llundain y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd,
“Mae’r Cylchoedd Olympaidd yn symbol eiconig, sy’n ysbrydoli athletwyr ac yn uno pobl ledled y byd. I athletwyr, maent yn cynrychioli penllanw miloedd o oriau o hyfforddiant ac o gyrraedd y lefel uchaf ym myd chwaraeon. Bydd y Cylchoedd hyn yn ysbrydoli trigolion Cymru ac ymwelwyr â Chymru, gan wneud iddynt edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd sy’n cael eu cynnal ym Mhrydain, a bydd yn gefndir ysblennydd i ddathliadau Caerdydd, pan fydd yn cynnal un ar ddeg o gemau Pêl droed Olympaidd yn ystod yr haf. Trwy eu lansio union dri mis cyn i Stadiwm y Mileniwm gynnal digwyddiad chwaraeon cyntaf Llundain 2012, maent yn dangos bod Cymru yn barod i groesawu’r byd.”
Roedd Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Delme Bowen, y Masgot Olympaidd Wenlock a Jamie Baulch a enillodd fedal arian yn bresennol gyda’r Gweinidog wrth lansio’r Cylchoedd.
Meddai Jamie, a enillodd ei fedal yng ngemau Atlanta fel rhan o dîm cyfnewid GB 4x400m,
“Gan fy mod yn dod o Gasnewydd, a mod i wedi profi awyrgylch y Gemau Olympaidd, rwy’n teimlo’n gyffrous iawn bod y Gemau Olympaidd a Gŵyl Llundain 2012 yn dod i Gymru. Dim ond tri mis sydd bellach cyn y Gemau. Roedd gweld y Cylchoedd Olympaidd heddiw a chlywed am y digwyddiadau diwylliannol gwych hyn sy’n cael eu cynnal wedi gwneud iddynt deimlo hyd yn oed yn nes. Alla i ddim aros!”
Mae Gŵyl Llundain 2012 yn 12 wythnos o ddathliadau ledled y wlad o’r 21 Mehefin tan 9 Medi, gan gyfuno artistiaid amlwg ledled y byd gyda’r goreuon o Brydain. Cynhelir 19 o wahanol ddigwyddiadau mewn 12 tref a phentref ledled Cymru dros 79 diwrnod yr ŵyl 12 wythnos.
Meddai Ruth Mackenzie, Cyfarwyddwraig Gŵyl Llundain,
“Gwyneth Lewis, Kaite O’Reilly, Marc Rees, Scritti Politti – dim ond rhai o’r artistiaid gwych o Gymru sy’n cymryd rhan yng Ngŵyl Llundain 2012 yng Nghymru. Byddant yn ymuno â doniau o safon ryngwladol ledled Prydain a’r byd i ddiddanu ac ysbrydoli’r genedl, ei phobl a’i hymwelwyr. Bydd Cymru hefyd yn ymuno â nifer o ddigwyddiadau ledled Prydain yn ystod y dathliad 12 wythnos ysblennydd sy’n rhedeg o’r 21 Mehefin tan 9 Medi. Gorau oll, mae nifer o’r dathliadau hyn yn rhad ac am ddim. Hoffwn ddiolch i’n Prif Bartneriaid BP a BT, y Prif Gyllidwyr Cyngor Celfyddydau Lloegr, Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth y DU a Dosbarthwr y Loteri Olympaidd, ac wrth gwrs Gyngor Celfyddydau Cymru am wneud hyn yn bosib.”
Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru,
“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o fod yn brif bartner wrth ddarparu Gŵyl Llundain 2012 yng Nghymru. Nod y rhaglen uchelgeisiol hon o ddigwyddiadau a gweithgareddau yw ysbrydoli a chysylltu â’r genedl i ddarparu etifeddiaeth barhaus y tu hwnt i’r Gemau Olympaidd eu hunain. Mae’r amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n digwydd yng Nghymru yn siŵr o gyffroi y genedl gyfan, gan ddod â gwerthoedd y Gemau Olympaidd i’n cymunedau, sy’n amrywiol o ran diwylliant a iaith.”
Mae cannoedd o gyfleoedd cyffrous eraill ledled Prydain yn gysylltiedig â Gŵyl Llundain 2012. Mae’r rhaglen lawn yn cael ei lansio yfory, dydd Iau 26 Ebrill, yn Llundain. Bydd taflen swyddogol Llundain 2012 ar gael o wefan Gŵyl 2012 Llundain.











