Derbynia 127 o safleoedd hanesyddol Cadw dros ddwy filiwn o ymwelwyr pob blwyddyn, a gyda dros 6,000 o flynyddoedd o hanes i’w archwilio ledled Cymru, mae Cadw yn disgwyl croesawu nifer sylweddol o bobl leol ac ymwelwyr dros benwythnos gŵyl y banc (5-7 Mai 2012).
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae safleoedd a phrofiadau treftadaeth yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i werth £4.2 biliwn o wariant twristaidd yng Nghymru pob blwyddyn, gydag atyniadau naturiol, cestyll a safleoedd hanesyddol ar frig yr atyniadau a ymwelwyd gan 72% o’r ymwelwyr sy’n aros yng Nghymru.
Gall hoffwyr diwylliant a dilynwyr rygbi fwynhau teithiau tywysedig o amgylch Cestyll y Fflint a Talacharn neu archwilio Capel swynol y Rug a mynachdy tawel Valle Crucis.
I unrhyw un sy’n mwynhau celf Gymreig, bydd Oriel Giles ym Mhont-y-clun yn cynnal arddangosfa yn canolbwyntio ar henebion Cadw yng Nghastell Coch.
Gall plant fwynhau dathliad hudol o fywyd y Dywysoges Gwenllian, clywed hanesion o’i bywyd cyffrous a chreu gwisgoedd tywysoges yng Nghastell Cydweli.
Am ragor o wybodaeth ar ddigwyddiadau, ewch i wefan Cadw, chwiliwch am Cadw ar Facebook neu ddilynwch @CadwWales ar Twitter.











