Mae’r blog wedi’i chreu fel bod modd i bobl ledled Cymru ynghyd ag ymwelwyr rannu eu profiadau o’r Gemau Olympaidd yng Nghymru gan ddechrau â Thaith Gyfnewid y Fflam Olympiadd ddydd Gwener nesaf.
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,
“Mae yna ymdeimlad o gynnwrf a chyffro yn datblygu ymhlith y bobl ledled Cymru, ac mae’n anodd anwybyddu hynny. Felly, mae gwahodd pobl i rannu eu profiadau o’r Gemau yn fodd arbennig o grisialu’r cynnwrf hwnnw. Rwyf yn ymwybodol fod Prif Weinidog Cymru yn frwdfrydig ynghylch bod yn rhan o’r fenter ac rwyf yn gobeithio y bydd pobl o Gymru benbaladr yn ymuno â’r cynnwrf ac yn rhannu eu profiadau o’r Gemau Olympaidd wrth i’r cynnwrf hwnnw ledu ar draws y wlad.”
Mae Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ar fin dechrau ac mae Cymru yn cynnal digwyddiad cyntaf oll y Gemau. Bydd y gystadleuaeth bêl-droed yn dechrau yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 25 Gorffennaf.
Bydd y gemau yn rhoi budd i’r economi, chwaraeon, diwylliant ac i’n cymdeithas yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r prif rhanddeiliaid i fanteisio i’r eithaf ar y buddion hyn.
Bydd y blog hwn yn galluogi pobl i rannu eu straeon â ni, a hynny drwy ddefnyddio eu llais eu hunain. Rydym eisiau crisialu’u hymwneud nhw â’r gemau, eu barn, a’u profiadau nhw o’r Gemau Olympaidd yng Nghymru.
Drwy weithio â phartneriaid yn yr awdurdodau lleol, cyrff sy’n ymwneud â chwaraeon ac eraill, mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd cyfraniadau gan amrywiaeth eang o bobl ledled Cymru, ynghyd ag ymwelwyr - gan gynnwys Cludwyr y Fflam, athletwyr, hyfforddwyr, pobl a fydd yn cefnogi’r Gemau a phobl a fydd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Bydd gan bawb bersbectif unigryw a byddan nhw eisiau rhannu hwnnw.
Mae’r blog hwn wedi’i greu yn y Gymraeg a’r Saesneg fel bod modd i bobl gyfrannu yn eu dewis iaith/ieithoedd. Mae dolen ar y safle i sianel newydd ar Flickr lle caiff lluniau eu rhannu gan bobl ar draws y wlad. Rydym hefyd yn ceisio annog pobl i ddefnyddio’r hashtag #2012cymruwales wrth iddynt rannu eu syniadau am y Gemau Olympaidd a’u profiadau.











