Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Cymru’n paratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd drwy flogio drwy’r haf

Wythnos sydd i fynd cyn iI Daith Gyfnewid y Fflam Olympaidd gyrraedd Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi lansio blog a fydd yn weithredol drwy gydol cyfnod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Dydd Gwener 18 Mai 2012

Mae’r blog wedi’i chreu fel bod modd i bobl ledled Cymru ynghyd ag ymwelwyr rannu eu profiadau o’r Gemau Olympaidd yng Nghymru gan ddechrau â Thaith Gyfnewid y Fflam Olympiadd ddydd Gwener nesaf.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth,

“Mae yna ymdeimlad o gynnwrf a chyffro yn datblygu ymhlith y bobl  ledled Cymru, ac mae’n anodd anwybyddu hynny. Felly, mae gwahodd pobl i rannu eu profiadau o’r Gemau yn fodd arbennig o grisialu’r cynnwrf hwnnw. Rwyf yn ymwybodol fod Prif Weinidog Cymru yn frwdfrydig ynghylch bod yn rhan o’r fenter ac rwyf yn gobeithio y bydd pobl o Gymru benbaladr yn ymuno â’r cynnwrf ac yn rhannu eu profiadau o’r Gemau Olympaidd wrth i’r cynnwrf hwnnw ledu ar draws y wlad.”

Mae Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ar fin dechrau ac mae Cymru yn cynnal digwyddiad cyntaf oll y Gemau. Bydd y gystadleuaeth bêl-droed yn dechrau yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 25 Gorffennaf.  

Bydd y gemau yn rhoi budd i’r economi, chwaraeon, diwylliant ac i’n cymdeithas yma yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’r prif rhanddeiliaid i fanteisio i’r eithaf ar y buddion hyn.

Bydd y blog hwn yn galluogi pobl i rannu eu straeon â ni, a hynny drwy ddefnyddio eu llais eu hunain. Rydym eisiau crisialu’u hymwneud nhw â’r gemau, eu barn, a’u profiadau nhw o’r Gemau Olympaidd yng Nghymru.

Drwy weithio â phartneriaid yn yr awdurdodau lleol, cyrff sy’n ymwneud â chwaraeon ac eraill, mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd cyfraniadau gan amrywiaeth eang o bobl ledled Cymru, ynghyd ag ymwelwyr - gan gynnwys Cludwyr y Fflam, athletwyr, hyfforddwyr, pobl a fydd yn cefnogi’r Gemau a phobl a fydd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol. Bydd gan bawb bersbectif unigryw a byddan nhw eisiau rhannu hwnnw.

Mae’r blog hwn wedi’i greu yn y Gymraeg a’r Saesneg fel bod modd i bobl gyfrannu yn eu dewis iaith/ieithoedd. Mae dolen ar y safle i sianel newydd  ar Flickr lle caiff lluniau eu rhannu gan bobl ar draws y wlad. Rydym hefyd yn ceisio annog pobl i ddefnyddio’r hashtag #2012cymruwales wrth iddynt rannu eu  syniadau am y Gemau Olympaidd a’u profiadau.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Gemau 2012

Gwefannau

2012 blog

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 18 Mai 2012 Gemau olympaidd 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mehefin 2013
Ll M M I G S S
<< Mai    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i