Aeth y Gweinidog i ymweld â llyfrgell Abertyleri yn gyntaf, sydd wedi cael ei hadnewyddu’n helaeth, diolch i gyllid o £300,000 gan raglen grant cyfalaf Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru. Derbyniodd y llyfrgell y grant yn ystod 2009 -10 ac mae’r cynllun moderneiddio wedi cynnwys:
- mynediad a chyfleusterau gwell i bobl anabl gan gynnwys lifft newydd, cyfleuster toiled anabl ar y llawr gwaelod, ramp mynediad newydd i’r prif lyfrgell a chownter ymholiadau newydd;
- mae cyflwyno’r dechnoleg newydd yn golygu y gall gwsmeriaid logi eitemau a’u dychwelyd drostynt eu hunain; ail-leoli’r ystafell TG a gwella’r gweithfannau TG;
- dodrefn newydd, gan gynnwys dodrefn newydd i blant;
- arwyddion gwell y tu mewn a thu allan i’r llyfrgell; a
- gwella’r amgylchedd o amgylch y llyfrgell gan gynnwys y grisiau a’r rheiliau.
Ers i’r gwaith gael ei gwblhau, mae’r llyfrgell wedi nodi ei bod yn haws i’r staff siarad â’r cwsmeriaid a’u helpu i ddefnyddio’r llyfrgell, a’r ystafell TG yn arbennig, a bod mwy o groeso i gwsmeriaid bellach i’r llyfrgell. Mae adnewyddu’r llyfrgell hefyd wedi golygu bod mwy o gyfle i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Brifysgol Agored ac amrywiol sefydliadau sydd bellach yn darparu clwb gweithio yn y llyfrgell.
Ymunodd y Gweinidog â’r grŵp storïau i blant bach, gan weld sesiwn Rhyngrwyd i Ddechreuwyr, o’r enw Clic Cyntaf.
Dywedodd:
"Mae’r hyn rydw i wedi’i weld yn Llyfrgell Abertyleri heddiw wedi creu argraff arnof. Mae’r cyfleusterau newydd yn golygu bod croeso gwell yn y llyfrgell a’i bod yn cynnig amrywiaeth ehangach o wasanaethau a mwy o help i’w chwsmeriaid. Dwi hefyd yn falch bod cyllid Llywodraeth Cymru wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i’r llyfrgell a’r gymuned sy’n ei defnyddio."
Dywedodd y Cynghorydd Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:
"Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i greu dyfodol mwy bywiog i gymunedau Blaenau Gwent. Dwi’n croesawu mentrau o’r fath ble y gallwn gydweithio â Llywodraeth Cymru i greu canlyniadau gwell i bobl leol."
Bu’r Gweinidog yn ymweld hefyd ag Abertyleri yn Hen Neuadd y Farchnad hefyd, gan gyfarfod y gwirfoddolwyr sy’n rhedeg yr amgueddfa.
Mae’r amgueddfa, sydd wedi derbyn £7,500 o gyllid Llywodraeth Cymru drwy gynllun grantiau bychain Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, yn portreadu hanes y dref drwy arddangosfa’r amgueddfa sy’n cynnwys Oes y Cerrig, yr Oes Efydd, mythau a chwedlau, y Celtiaid a’r Rhufeiniaid, teithio rheilffordd, ffowndri haearn a gwaith tun, y diwydiant glo a’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.
Meddai Mr Lewis:
"Mae gwirfoddolwyr fel y rhai sy’n rhedeg Amgueddfa Abertyleri yn ganolog i’r broses o gadw hanes lleol. Diolch iddyn nhw am y gwaith y maen nhw wedi’i wneud i wneud yn siŵr bod stori pobl Abertyleri yn cael ei chyflwyno i’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol."











