Yn yr agoriad, pwysleisiodd Huw Lewis bwysigrwydd y mannau hyn,
“Mae hon yn flwyddyn bwysig o chwaraeon i ni ym Mhrydain wrth i ni groesawu’r Gemau Olympaidd. Rydyn ni am ddatblygu’r diddordeb hwn ac ni ddylid tanbrisio ymdrechion i annog plant yn arbennig i wneud mwy o ymarfer corff, yn aml drwy chwarae. Gall hyn gyfrannu yn gadarnhaol at eu datblygiad yn y dyfodol.
“Rwy’n falch iawn fod gan y Bwrdd Adfywio Lleol y weledigaeth i gefnogi’r prosiect hwn ac rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad yn sicrhau manteision sylweddol yn y dyfodol.”
Lleolir y prosiect Adizone ei hun ym Min-y-Ddôl ym Mhenparcau, sy’n ardal Cymunedau yn Gyntaf, ac mae Bryn Jones, cydlynydd rhanbarthol Cymunedau yn Gyntaf, wedi croesawu’r datblygiad.
“Ers i Aberystwyth gael ei nodi fel Ardal Adfywio gan Lywodraeth Cymru mae wedi bod yn galonogol i weld y mentrau amrywiol sydd wedi’u datblygu. Mae’r prosiect Adizone yn rhan hanfodol o’r darlun gan ei fod yn rhoi cyfle i’n trigolion gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn hybu eu hiechyd yn ogystal â’u lles cyffredinol drwy gymdeithasu ag eraill. Yn bendant, mae wedi creu cyffro ac rwy’n hyderus y bydd defnydd mawr yn cael ei wneud ohono.”
Roedd Bronwen Morgan, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, hefyd o’r un farn.
“Mae’r Awdurdod Lleol yn mynd ati i sicrhau bod y broses o adfywio Aberystwyth yn gwella bywydau trigolion y dref a thrigolion yr ardal ehangach mewn modd cadarnhaol. Mae prosiect Adizone yn cynnig cyfleoedd i bawb yn ein cymunedau gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff, ac rydyn ni’n falch iawn bod Ceredigion yn gallu manteisio ar effaith y Gemau Olympaidd.”











