Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Yr athletwyr cyntaf yn cyrraedd Cymru i baratoi ar gyfer y Gemau

Gyda llai na phedair wythnos tan ddechrau Gemau Olympaidd 2012 yn Stadiwm y Mileniwm, mae’r gwersyll hyfforddi cyntaf cyn y Gemau wedi cyrraedd Caerdydd.
Dydd Llun 02 Gorffennaf 2012

Mae Athletics New Zealand, tîm cryf o 25 o athletwyr, hyfforddwyr a staff cymorth i dreulio’r pump wythnos nesaf yn stadiwm Lecwydd Caerdydd.

Bydd Cymru yn croesawu 17 o wersylloedd hyfforddi yn ystod y cyfnod cyn y Gemau, gan gynnwys athletwyr o dros 21 o wledydd.  Bydd saith o wersylloedd hyfforddi aml-gamp a deg o wersylloedd hyfforddi un camp yn cynnwys dros 800 o athletwyr a staff cymorth.

Wrth eu croesawu i Gymru, dywedodd Huw Lewis y Gweinidog Chwaraeon,

“Mae gwersylloedd fel rhain yn rhoi cyfle gwych inni ddatblygu ein cyfnewidiadau gyda’r gwledydd hyn ym maes chwaraeon, addysg a diwylliant, a hoffwn estyn croeso cynnes i dîm Seland Newydd. Maent yn rhoi’r cyfle i blant a chymunedau lleol ddysgu mwy am wledydd eraill a rhoi gwaddol bositif o’r Gemau i Gymru.

“Mae pawb yn gwybod bod chwaraeon yn ddylanwad mawr ar bobli fanc, ac mae cael athletwyr o statws ryngwladol yn hyfforddi ar garreg y drws ac yn byw yn eu cymunedau yn ysbrydoliaeth enfawr.”

Meddai Raylene Bates, hyfforddwr tîm Olympaidd Seland Newydd,

“Dewiswyd Cymru gan bod perthynas naturiol rhwng Cymru a Seland Newydd, sy’n golygu ein bod yn teimlo’n gyfforddus iawn yma.  Roeddem hefyd am gael canolfan oedd modd ei defnyddio eto yn ein paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, felly cyn belled ag y bydd popeth yn mynd fel y dylai, byddwn yn ôl bryd hynny.

“Y prif reswm dros ddewis aros yma, fodd bynnag, yw bod y cyfleusterau yma o’r radd flaenaf, ac mae’r bobl yn groesawgar iawn ac yn barod iawn eu help.

“Mae gennym obeithion mawr ar gyfer ein hathletwyr.  Mae ein safonau cymhwyso yn llym iawn, felly mae gan bob un o’n hathletwyr gyfle gwirioneddol o gyrraedd yr 16 uchaf, yn seiliedig ar eu safle presennol yn rhyngwladol, ac mae gennym ragolygon realistig yn ein tîm o ennill medalau.  Mae ein paratoadau yn allweddol i hyn ac rwy’n siŵr y cawn y dechrau gorau posib yng Nghymru.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden,

“Mae Caerdydd yn hynod falch o gael ei dewis yn un o’r gwersylloedd hyfforddi cyn y gemau ar gyfer timau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. Mae hyn yn helpu i roi llwyfan i Gaerdydd fel dinas sydd â chyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol a seilwaith chwaraeon gwych.

“Bydd Caerdydd yn chwarae’i rhan drwy helpu’r athletwyr i baratoi ar gyfer y Gemau, er mwyn iddyn nhw fedru gwneud eu gorau glas. Bydd hefyd yn sicrhau eu bod nhw’n cael profiad yr un mor wych fel ymwelwyr â’r ddinas. Mae’n anrhydedd ac yn destun balchder ein bod yn cael cynnig cymorth iddyn nhw ar yr adeg hynod bwysig hon.

“Hoffwn roi croeso cynnes i bob un o’r timau a dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer Llundain 2012.”

Mae’r timau sydd bellach yn dod i Gymru yn ganlyniad pedair mlynedd o waith caled a ddechreuodd cyn Gemau Beijing yn 2008.  Mae’r gwersylloedd hyfforddi cyn y Gemau  yn dod â buddsoddiad uniongyrchol i’r economi sy’n golygu miliynau o bunnoedd, ac maent yn gyfle gwych i arddangos yr ystod o gyfleusterau chwaraeon o safon ryngwladol sydd gennym yng Nghymru.

Gan bod Gemau’r Gymanwlad 2014 yn cael eu cynnal yn Glasgow, mae Llywodraeth Cymru yn targedu gwledydd y Gymanwlad gyda’r bwriad o ddatblygu perthynas hirdymor â hwy.  Rydym yn gobeithio y bydd nifer o wledydd yn dychwelyd i Gymru cyn Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow, a digwyddiadau mawr eraill ym Mhrydain.

Mae’r rhan fwyaf o’r timau yng Nghymru yn awyddus i fod yn rhan o’r cymunedau y maent yn aros ynddynt, a byddant yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r gymuned tra bont yma.  Bydd ymwneud â’r timau tra eu bod yma yn gyfle rhagorol i bobl Cymru brofi’r Gemau Olympaidd drostynt eu hunain.

Bydd croesawu’r timau hyn yn ddigwyddiad proffil uchel, a bydd yn helpu inni barhau i godi proffil ac enw da Cymru yn rhyngwladol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Hyfforddiant Cyn y Gemau

Gwefannau

Ein blog 2012

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 02 Gorffennaf 2012 Gemau olympaidd 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Mai 2013
Ll M M I G S S
<< Ebr    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i