Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth yn ymweld ag Eisteddfod Llangollen

Heddiw, aeth Huw Lewis y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth ar ymweliad ag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, ble y gwyliodd y cystadlaethau Canu a Dawnsio, a chyfarfod â rhai o’r gwirfoddolwyr a wnaeth yr Eisteddfod yn bosibl.
Dydd Gwener 06 Gorffennaf 2012

Aeth y Gweinidog ar daith o amgylch safle’r Eisteddfod, gan gynnwys ymweliadau â’r Pafiliwn Rhyngwladol, sydd wedi derbyn £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn 2009 i’w adnewyddu, a’r llwyfannau i wylio’r grwpiau gwerin o bob cwr o’r byd yn perfformio yn y caeau o amgylch.

Meddai’r Gweinidog,

“Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn enghraifft wych o gynwysoldeb ac aml-ddiwylliant, gyda chynifer o wahanol genhedloedd yn cymysgu yn eu gwisgoedd traddodiadol a chynifer o ieithoedd yn cael eu siarad o amgylch y cae.

“Mae hefyd yn gyfle gwych inni groesawu’r byd i Gymru ac inni hyrwyddo delwedd mor bositif o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol.  Mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol, ac rwy’n falch iawn o fod yma.” 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Dolenni

Beth sy'n digwydd?

Tagiau

Diwylliant a chwaraeon 06 Gorffennaf 2012 Programme for Government - Culture and Heritage Y Gogledd
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Hydref 2014
Ll M M I G S S
<< Med    
    1 2 3 4 5
6 7 8 9 10 11 12
13 14 15 16 17 18 19
20 21 22 23 24 25 26
27 28 29 30 31    
I'n dilyn ni trowch i