Roedd y Gweinidog yn ymateb i gyhoeddiad gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri bod ei dyfarniad mwyaf erioed yng Nghymru wedi’i wneud i’r prosiect Creu Hanes, sy’n rhan o raglen o welliannau gwerth £25 miliwn i atyniad Amgueddfa Cymru a enwyd yn ddiweddar fel atyniad gorau Prydain i ymwelwyr mewn arolwg gan y cylchgrawn defnyddwyr Which?
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r prosiect ac mae eisoes wedi clustnodi £6 miliwn o arian cyfatebol ar gyfer y cynllun.
Nod y prosiect Creu Hanes yw adeiladu ar boblogrwydd yr amgueddfa a chyfuno cryfderau amgueddfa awyr agored gyda rhai amgueddfa gonfensiynol. Bydd yn creu profiad newydd cyffrous i ymwelwyr gan integreiddio archeoleg a chasgliadau o hanes cymdeithasol am y tro cyntaf a bydd yn adrodd stori pobl Cymru dros y 250,000 mlynedd ddiwethaf.
Bydd adeilad amlbwrpas yn cael ei greu fel rhan o’r prosiect yn cynnwys oriel a lle ar gyfer gweithgareddau, parthau archeoleg awyr agored mewn lleoliadau ar draws y safle a gwell cyfleusterau i ymwelwyr gan gynnwys caffi.
Meddai Mr Lewis:
"Rwyf wrth fy modd bod Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi dangos yr hyder hwn yn Amgueddfa Cymru. Sain Ffagan yw hoff atyniad Prydain i ymwelwyr ac mae eisoes yn gyfleuster o’r radd flaenaf, ond bydd y prosiect newydd hwn yn sicrhau ei fod yn atyniad blaenllaw ledled y byd.
"Bydd yr ailddatblygiad hwn yn rhoi cyfleoedd gwych i bobl Cymru ddysgu mwy am eu diwylliant a’u treftadaeth, a bydd yn denu llawer mwy o ymwelwyr o ardaloedd pellach, gan roi’r hwb sydd ei angen ar yr economi. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi swm sylweddol o arian cyfatebol i’r prosiect hwn, gan gydnabod ei uchelgais a’i fudd strategol i Gymru gyfan. Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld y prosiect hwn yn datblygu."
Sefydlwyd Sain Ffagan fel amgueddfa yn 1948 a dyma oedd yr amgueddfa awyr agored gyntaf ym Mhrydain. Fel un o sefydliadau cenedlaethol cyntaf Cymru mae’n chwarae rhan bwysig wrth ddiffinio hunaniaeth fodern Cymru. Ar hyn o bryd mae’n adrodd y stori sut roedd pobl Cymru yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden dros y 500 mlynedd ddiwethaf.
Mae mynediad i Sain Ffagan, ynghyd â holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru, am ddim diolch i’r cyllid gan Lywodraeth Cymru.











