Roedd y trefnwyr wedi gwneud argraff dda iawn ar y tîm nofio, sydd wedi’i leoli ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd, drwy eu bod wedi gwneud eu gorau glas drostyn nhw fel trefnu llety, cyfleusterau a chludiant. Roedden nhw hefyd yn gwerthfawrogi’r croeso cynnes gawson nhw ym mhob man.
Yn ôl Mr Chan Yu Hoi, Rheolwr y Tîm,
"Mae’n amlwg fod hwn yn gyfnod pwysig ym mharatoadau’n hathletwyr gan fod y Gemau brin wythnos i ffwrdd. Mae’r croeso a gawson ni, a’r cyfleusterau rydyn ni wedi bod yn eu defnyddio, wedi bod o’r radd flaenaf."
Yn ôl Huw Lewis, y Gweinidog Chwaraeon,
"Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod timau yn dewis lleoli’u canolfan hyfforddiant yng Nghymru. Dyma gyfle gwerth chweil i ddatblygu ein cysylltiadau chwaraeon, addysgol a diwylliannol gyda’r gwledydd hyn. Dw i’n falch iawn o ddeall fod y tîm yn mwynhau eu harhosiad, ac rwy’n gobeithio’n fawr y byddan nhw, fan lleiaf, yn mynd ag atgofion pleserus o Gymru gyda nhw pan fyddan nhw’n mynd i Lundain yr wythnos nesaf. Dw i’n dymuno pob llwyddiant i’r tîm yn yr wythnosau nesaf hyn."
Yn ogystal â thîm nofio Hong Kong mae Seland Newydd, Trinidad a Tobago a Botswana hefyd ymhlith y 22 o dimau Olympaidd a Pharalympaidd sydd wedi dewis Cymru fel canolfan hyfforddi cyn y Gemau.
Yn ogystal â Phwll Rhyngwladol Caerdydd, mae Canolfan Athletau dan Do Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a Stadiwm Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd (CISS) hefyd ymhlith y cyfleusterau a gaiff eu defnyddio gan y timau sy’n aros yn y brifddinas.
Mae’r timau wedi dewis Cymru fel canolfan hyfforddi ar ôl pedair blynedd o waith caled gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Roedd y broses yn golygu dangos bod gennym seilwaith chwaraeon ardderchog, bod ein cyfleusterau gystal ag unrhyw beth yn y byd, ein bod yn broffesiynol a bod yr arbenigedd priodol gan ein staff a rheolwyr y canolfannau. Roedden ni hefyd am bwysleisio natur groesawgar y Cymry yn gyffredinol.
Bydd y Gemau Olympaidd yn dechrau yng Nghaerdydd ddydd Mercher 25 Gorffennaf, gyda’r gemau pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm. Mae gan y ddinas dreftadaeth gyfoethog ym myd chwaraeon. Mae wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr gan gynnwys Rownd Derfynol Cwpan yr FA a Chyfres y Lludw, gan wneud enw iddi’i hun fel dinas flaenllaw ym myd chwaraeon lle mae cyfleusterau o’r radd flaenaf a stadia o safon byd eang.











