Conwy oedd y lle cyntaf i’r Gweinidog ymweld ag ef. Yno, gwelodd sut mae £610,000 o gyllid o Brosiect Twristiaeth Treftadaeth Llywodraeth Cymru wedi gwella’r ganolfan i ymwelwyr. Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i gyflwyno cyfleusterau dehongli newydd, sy’n cynnwys gwaith gan bump o artistiaid o Gymru sydd wedi ymateb i hanes y Castell yn eu ffyrdd unigryw eu hunain.
Mae’r dull arloesol hwn o ddehongli yn cynnwys byrddau gwybodaeth newydd a llwybr rhyngweithiol i deuluoedd i helpu ymwelwyr i elwa i’r eithaf ar eu hymweliad ag un o Safleoedd Treftadaeth y Byd.
Dywedodd Mr Lewis,
“Mae Castell Conwy yn enghraifft wych o sut mae gwahanol rannau o’r llywodraeth yn gallu cydweithio i gyflawni rhywbeth arbennig. Mae’r ganolfan newydd wych hon yn lle i bawb i ddysgu a bydd y cyfleusterau dehongli newydd yn caniatáu i’n holl gyfeillion o bob cwr o’r byd werthfawrogi’r tirnod hanesyddol hwn gyda ni.”
Mae Castell Conwy yn un o 128 o safleoedd hanesyddol sydd o dan ofal y wladwriaeth ac sy’n cael ei reoli gan Cadw. Mae’n denu bron i 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae’n ail ar y rhestr o atyniadau sy’n denu’r nifer mwyaf o ymwelwyr.
Aeth y Gweinidog yn ei flaen wedyn i Gastell Dinbych, lle agorodd yn swyddogol y ganolfan newydd i ymwelwyr.
Dywedodd,
“Mae ein treftadaeth yn gyfle gwych i ni groesawu’r byd i Gymru. Gallwn ni hyrwyddo’r ddelwedd hon o Gymru ar y llwyfan rhyngwladol, o’r ganolfan newydd arbennig hon i ymwelwyr. Rwy’n gwybod bod y castell ei hun yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol, ac rwyf wrth fy modd o gael bod yma."
Ar gyfartaledd, mae 8,000 o ymwelwyr yn mynd i Gastell Dinbych bob blwyddyn. Ers i Cadw ddechrau rheoli’r castell yn uniongyrchol, hwn yw’r tro cyntaf i’r safle gael ei gadw ar agor gydol y Gaeaf. Ddydd Iau nesaf bydd mynediad am ddim i bawb.
Ychwanegwyd at y goleuadau a oedd eisoes i’w gweld ar furiau’r dref yn Ninbych diolch i brosiect Eco-oleuadau Cadw, a chafodd y gwaith ei ariannu gan Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Llywodraeth Cymru.
Mae’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gydgyfeirio Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Bydd y prosiect yn cynyddu gwerth economaidd ein treftadaeth drwy gynyddu nifer, hyd a gwerth yr ymweliadau â Chymru. Bydd y Prosiect yn sicrhau hefyd fod pobl yn gallu cael mwy o fynediad i dreftadaeth hynod Cymru, a bod yr ymweliadau yn fwy pleserus eto, i ymwelwyr â Chymru yn ogystal â thrigolion Cymru ei hun.











